Bwriad y Pwyllgor hwn yw cryfhau ffocws y Bwrdd Iechyd ar gyllid a darpariaeth weithredol. Bydd yn disodli’r Pwyllgor Adnoddau Cynaliadwy (SRC) (agor mewn dolen newydd) ac yn ymgorffori elfen cyflawni weithredol y Pwyllgor Strategol, Datblygu a Chyflenwi Gweithredol (SDODC) (agor mewn dolen newydd) (SODDC), a fydd ill dau yn cael eu datgysylltu.
Sefydlwyd y Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad fel un o Bwyllgorau Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda ac fe’i sefydlwyd o 1 Ebrill 2025.
Pwrpas y Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad fydd rhoi cyngor a sicrwydd i’r Bwrdd ar y canlynol:
- Perfformiad ariannol a chyflawniad yn erbyn cynlluniau ac amcanion ariannol y Bwrdd Iechyd a
- rhoi rhybudd cynnar o faterion perfformiad posibl;
- gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu i wella sefyllfa ariannol y sefydliad yn barhaus;
- canolbwyntio ar effaith ariannol cynlluniau yn ystod y flwyddyn a’r tymor canolig, effaith materion ariannol ar ddarparu gwasanaethau, ansawdd a phrofiad y claf, ac unrhyw faterion penodol lle mae perfformiad ariannol yn dangos dirywiad neu lle mae meysydd sy’n peri pryder.
- Perfformiad cyffredinol a chyflawniad yn erbyn cynlluniau ac amcanion y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys cyflawni targedau allweddol, rhoi rhybudd cynnar ar faterion perfformiad posibl a gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu i wella perfformiad y sefydliad yn barhaus ac, yn ôl yr angen, canolbwyntio ar faterion penodol lle mae perfformiad yn dangos dirywiad neu lle mae materion sy'n peri pryder.
Cliciwch yma am Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad (agor mewn dolen newydd).
Cliciwch isod i gael mynediad at papurau'r Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad. Nodwch mae'r dogfennau ar gael yn Saesneg yn unig.
- Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad Cyfarfod 16 Rhagfyr 2025
- Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad Cyfarfod 21 Hydref 2025
- Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad Cyfarfod 26 Awst 2025
- Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad Cyfarfod 26 Mehefin 2025
- Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad Cyfarfod 29 Ebrill 2025