Mae’r Fforwm Partneriaeth Staff (SPF) wedi’i sefydlu fel Pwyllgor Ymgynghorol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac fe’i sefydlwyd 1 Hydref 2009.
• Y SPF yw’r mecanwaith ffurfiol lle mae cyflogwyr ac Undebau Llafur GIG Cymru, a chyrff proffesiynol (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel Undebau Llafur) yn cydweithio i wella gwasanaethau iechyd i bobl Cymru. Dyma’r fforwm lle bydd rhanddeiliaid allweddol yn ymgysylltu â’i gilydd i hysbysu, dadlau a cheisio cytuno ar flaenoriaethau lleol ar faterion yn ymwneud â’r gweithlu a’r gwasanaeth iechyd.
• Cyn gynted â phosibl, bydd y Bwrdd yn ymgysylltu â'r Undebau Llafur yn y trafodaethau allweddol ym Mwrdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, SPF a Fforymau Partneriaeth Sirol (CPF).
Bydd y SPF yn darparu mecanwaith ffurfiol ar gyfer ymgynghori, negodi a chyfathrebu rhwng yr Undebau Llafur a rheolwyr. Bydd egwyddorion partneriaeth y TUC yn berthnasol:-
Manylir ar rôl lawn y Fforwm Partneriaeth Staff yng Ngylch Gorchwyl y SPF (PDF, 282KB, 17 Mawrth 2022, agor mewn dolen newydd).