Neidio i'r prif gynnwy

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dwyn ynghyd gyfreithiau gwrth-gwahaniaethu blaenorol mewn un Ddeddf. Fel corff cyhoeddus rhaid i Fwrdd Iechyd Hywel Dda roi gwybod i’w weithwyr am ei gyfrifoldebau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Erbyn hyn, wrth siarad am gydraddoldeb, rydym yn cyfeirio at “nodweddion gwarchodedig” pobl. Tra ei bod hi’n bwysig peidio â rhoi pobl mewn blychau, mae’r gyfraith yn gofyn i ni ystyried cydraddoldeb o dan benawdau penodol.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cryfhau eich hawliau i beidio â chael rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn. Ystyr gwahaniaethu yw trin rhywun yn waeth na phobl eraill oherwydd eu bod yn wahanol. Mae’r grwpiau hynny o bobl y mae hawl ganddynt i beidio â chael pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn wedi’u hymestyn hefyd. Mae gan y bobl sy’n perthyn i’r grwpiau hyn yr hyn a elwir yn nodweddion gwarchodedig. 

Isod gallwch gyrchu'r nodweddion gwarchodedig a gweld ein dyletswyddau cyffredinol a phenodol fel corff cyhoeddus.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: