Neidio i'r prif gynnwy
Dr Phil Kloer - Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Chyfarwyddwr Strategaeth Glinigol
Athro. Phil Kloer

Prif Weithredwr

 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin SA31 3BB

01267235151

Philip.Kloer@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Prif Weithredwr

Ymgymerais â rôl Prif Weithredwr ym mis Hydref 2024 ac rwy’n falch o fod yn gweithio gyda chi i gyd ac o fod yn arwain ein sefydliad trwy gyfnod o newid sylweddol. Rwyf wedi ymrwymo i weld Hywel Dda yn llwyddo, nid yn unig fel arweinydd a rheolwr, ond fel tad ac aelod o’n cymuned leol. Mae profiad ein cleifion, a'u diogelwch, yn rhywbeth sy'n annwyl i mi.

Rwy’n gyfarwyddwr gweithredol profiadol gyda dros 10 mlynedd o brofiad ar lefel bwrdd. Ymunais â Hywel Dda yn 2005 ac rwyf wedi cael y pleser o ddal amrywiaeth o rolau cyfarwyddwr gan gynnwys fel cyfarwyddwr gweithredol gofal sylfaenol, cymunedol, a gwasanaethau iechyd meddwl. Yn fwy diweddar, daliais rôl cyfarwyddwr meddygol a dirprwy brif weithredwr.

Ar ôl hyfforddi yng Nghymru, Seland Newydd a Lloegr, bûm yn gweithio fel meddyg anadlol am dros 15 mlynedd, ac yn flaenorol bu’n arwain y gwasanaeth canser yr ysgyfaint yng ngorllewin Cymru.

Mae gennyf brofiad sylweddol o arwain rhaglenni newid a datblygu strategaeth system gyfan ar raddfa fawr, gan gynnwys ymgysylltu ac ymgynghori â staff, y cyhoedd, partneriaid, cynrychiolwyr y cyhoedd, a’r cyfryngau.

Arweiniais y rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol yng ngorllewin Cymru, gan ymgysylltu â chymorth uwch glinigwyr wrth gytuno ar ein strategaeth iechyd a gofal 20 mlynedd. Mae hyn yn cynnwys uchelgais i symud i ddull mwy cymdeithasol o iechyd a lles. Mae ein strategaeth,  Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach (agor mewn dolen newydd) yn nodi ein huchelgais hirdymor ar gyfer ein rhanbarth a bydd yn gweld gofal yn cael ei ddarparu yn nes at adref.

Rwy’n angerddol dros arweinyddiaeth a datblygiad arweinwyr y dyfodol a fi oedd arweinydd Cymru ar gyfer y Gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Feddygol (FMLM), ac rwy’n ymddiriedolwr elusen FMLM yn y DU. Rwyf hefyd yn Athro er Anrhydedd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: