Cytunodd ein Bwrdd yn unfrydol bod angen ymgynghoriad cyhoeddus pellach ar dri safle posibl ar gyfer Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd. Gallwch ddysgu mwy am rai o nodweddion y tri safle posibl, gan gynnwys beth sydd yr un peth neu'n debyg, a'u gwahaniaethau trwy glicio ar y pinnau map. Rydym hefyd yn cynnwys rhai o’r safbwyntiau gan grwpiau sydd wedi ystyried effeithiau lleoliad yr ysbyty newydd o fewn y parth y cytunwyd arno.
Opsiynau safle yr ydym yn ymgynghori arnynt
Mae’r tri safle posibl o fewn ardal ddaearyddol fach yn ne ardal Hywel Dda, yn Sir Gaerfyrddin ac yn agos at ffin Sir Benfro. Mae dau ger tref Hendy-gwyn ar Daf ac un ger Sanclêr.