Neidio i'r prif gynnwy

Safle ysbyty newydd

Mae nyrs yn sefyll wrth ymyl pin lleoliad sy’n cynnwys ysbyty

Diolch am eich diddordeb yn yr ymgynghoriad Safle Ysbyty Newydd. Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben.

Diweddariad: 14 Medi 2023

Cynnydd gyda'r broses dewis safle ar gyfer ysbyty newydd

Ar 14 Medi, mewn cyfarfod arbennig o’r Bwrdd, bu aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn trafod canfyddiadau’r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, ynghyd â’r wybodaeth dechnegol a masnachol ddiweddaraf, ar y tri safle posibl ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn ne rhanbarth Hywel Dda.

Yn dilyn ystyriaeth drylwyr o ganfyddiadau’r ymgynghoriad a gafodd eu coladu a’u dadansoddi’n annibynnol gan Opinion Research Services (ORS), ynghyd â gwybodaeth dechnegol bellach am y tri safle posibl, a gwybodaeth fasnachol, penderfynodd aelodau’r Bwrdd leihau'r rhestr fer o safleoedd ar gyfer yr ysbyty gofal brys a gofal wedi'i gynllunio newydd o dri safle i ddau safle. Penderfynodd y Bwrdd symud ymlaen gyda Thŷ Newydd, Hendy-gwyn ar Daf, a’r safle yn Sanclêr. Dewiswyd y safleoedd hyn ar ôl ystyried yr adroddiad ymgynghori, Asesiad Effaith ar Cydraddoldeb Iechyd, arfarniadau Technegol, Bioffilig, Clinigol a Gweithlu. Penderfynwyd na fyddai safle Gerddi Ffynnon Hendy-gwyn ar Daf yn cael ei symud ymlaen i'w ystyried ymhellach.

Darllenwch yr adroddiad adborth terfynol gan Opinion Research Services (ORS) - Safle Ysbyty Newydd Awst 2023 yma (PDF, 3.66MB, yn agor mewn dolen newydd.)

Roedd y cyfarfod bwrdd arbennig yn agored i aelodau'r cyhoedd ac ar gael i'w weld ar-lein. Gellir gweld papurau’r Bwrdd a drafodwyd yn y cyfarfod, a oedd yn cynnwys gwybodaeth dechnegol bellach yn ymwneud â’r tri safle, ar wefan y bwrdd iechyd: Phapuraur Bwrdd 14 Medi 2023 (yn agor mewn dolen newydd)

Ymgynghorwyd â’r cyhoedd am 12 wythnos o 23 Chwefror i 19 Mai 2023 ar ddewis safle ar gyfer Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd. Gallwch ddarganfod mwy isod. 

 

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: