Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â newidiadau arfaethedig i naw gwasanaeth clinigol yn ein bwrdd iechyd o ddydd Llun 2 Mehefin 2025 tan ddydd Sul 31 Awst 2025. Y naw gwasanaeth yw:
Casglodd cwmni annibynnol, Opinion Research Services (ORS), yr holl farn a glywsom gan bobl a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ynghyd a chreu adroddiad. Bydd yr adroddiad hwn, ochr yn ochr ag ystod eang o wybodaeth arall, yn helpu'r bwrdd iechyd i wneud penderfyniadau am ddyfodol y gwasanaethau hyn.
Isod gallwch ddarllen crynodeb gweithredol yr adroddiad. Rydym wedi rhannu hyn mewn fformat hygyrch, gan ddefnyddio cynnwys yr adroddiad, yn union fel y cafodd ei ysgrifennu gan ORS. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ym mhapurau cyfarfod y Bwrdd ym mis Ionawr yma (yn agor mewn dolen newydd). Rydym yn ymwybodol nad yw'r adroddiad yn bodloni safonau hygyrchedd digidol.