Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun gwasanaethau clinigol

Mae gennym weledigaeth a rennir gyda’n cymunedau i ni fyw bywydau iach a llawen.

Oherwydd natur y gwasanaethau a ddarperir ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, cydnabyddir bod gan ystod eang o wasanaethau rai gwendidau. Roedd hyn yn sbardun allweddol i ddatblygiad strategaeth y Bwrdd Iechyd sy’n ceisio lleihau, os nad dileu, y risgiau i ddarpariaeth gwasanaethau cynaliadwy.  

Mae gan ein strategaeth o’r enw ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw Bywydau Iach (agor mewn dolen newydd, Saesneg yn unig)’ , yr uchelgais i symud o wasanaeth sydd ond yn trin salwch i un sy’n cadw pobl yn iach, yn atal afiechyd neu waethygiad afiechyd, ac yn darparu unrhyw help sydd ei angen arnoch yn gynnar. Hyd nes y bydd y strategaeth wedi'i gweithredu'n llawn, yn enwedig sefydlu'r rhwydwaith ysbytai newydd arfaethedig, mae'n rhaid i wasanaethau reoli'r gwendidau hyn yn ddyddiol.  

Mae'r pandemig wedi datgelu'r diffygion hyn ymhellach, gyda llawer o wasanaethau'n methu ag adfer lefelau gweithgaredd neu fodelau gwasanaeth cyn-COVID. I ymateb i hyn, rydym yn mynd i adolygu gwasanaethau sydd angen sylw ar frys fel y gallwn ddatblygu set o gynlluniau i gefnogi gwasanaethau allweddol yn y tymor canolig.  

 

 

Yr hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn?

Gallwch ddarllen mwy o wybodaeth gefndir am y gwaith hwn ar ein tudalen we bwrpasol, yma. (agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: