Neidio i'r prif gynnwy

Sioe deithiol iechyd a lles cymunedol - digwyddiadau galw heibio ac ar-lein

Rydym yn cynnal digwyddiadau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i ddysgu mwy am wasanaethau Gofal Iechyd Sylfaenol a Chymunedol.

Mae'r ymgysylltu ‘Fy Iechyd, Fy Newis’ yn cynnwys digwyddiadau arddangos mewn amryw leoliad ac ar-lein. Rydym yn gofyn i bobl rannu eu profiadau o wasanaethau gofal iechyd a syniadau i'r dyfodol.

Mae eich barn, eich profiad o iechyd a gofal a’ch syniadau ynghylch dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal yn y gymuned yn hynod bwysig. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn wedi eu llywio gan y rhai yr ydym yn eu gwasanaethu.   

Yn ystod mis Medi gallwch fynychu digwyddiadau galw heibio, naill ai yn bersonol neu ar-lein i rannu eich barn.  Cynhelir digwyddiadau ar draws siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion. Ym mhob digwyddiad cewch gyfle i siarad ag uwch staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ddyfodol eich gwasanaethau iechyd a gofal cymunedol lleol.

Mae croeso i bawb yn y digwyddiadau hyn ac rydym yn eich annog i fynychu yn enwedig os oes gennych diddordeb mewn gofal sylfaenol a chymunedol. 

O 2 Medi gallwch rannu eich barn drwy fynd i dudalen gwe Dweud Eich Dweud yma (agor mewn dolen newydd).

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gymryd rhan a dweud eich dweud.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: