Mae’r ffigwr hwn ar gyfer popeth y gobeithiwn ei adeiladu, nid yn unig yr ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd.
Byddai hyn yn gwella’n sylfaenol y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu, yn ogystal â’r amgylcheddau y cânt eu darparu ohonynt.
Mae’r symiau arian yn amcangyfrifon cynnar, ond os cânt eu cymeradwyo, bydd y rhaglen yn cynnwys:
- Adeiladu Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd ar safle sydd eto i'w nodi rhwng Arberth a Sanclêr (gallai adlewyrchu buddsoddiad o tua £737 miliwn)
- Ail-adeiladu neu addasu Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, ac Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin at ddibenion gwahanol (gallai adlewyrchu buddsoddiad o tua £210-£284 miliwn)
- Adnewyddu Ysbyty Bronglais, Aberystwyth (gallai adlewyrchu buddsoddiad o tua £126 miliwn)
- Adnewyddu Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli (gallai adlewyrchu buddsoddiad o tua £109m)
- Datblygu ein hadeiladau cymunedol (gallai adlewyrchu buddsoddiad o tua £185 miliwn)