Neidio i'r prif gynnwy

Sut bydd hyn o fudd i'r economi leol?

Mae’r bwrdd iechyd am sicrhau’r budd cymdeithasol mwyaf posibl o’r ffordd y mae’n gweithio ac mae’n rhagweld y byddai’r buddsoddiad arfaethedig yn dod â buddion economaidd sylweddol i’n cymunedau.

Yn y cyfnod cynnar hwn credwn y gallai'r rhaglen gyfan arwain at fuddsoddiad o fwy na £1.3 biliwn i'w gyflawni. Mae amrywiaeth o gyfleoedd posibl, prosbectws o opsiynau ar gyfer buddsoddi, o fewn yr Achos Busnes Rhaglen. Mae hyn yn cynnig cyfle gwych i fuddsoddi mewn busnes a swyddi yng nghanolbarth a gorllewin Cymru gan na welwyd y lefel hon o fuddsoddiad yn yr ardal hon o’r blaen. Byddai hyn o fudd nid yn unig i’r rhai ohonom sydd yma heddiw, ond hefyd i’r cenedlaethau sydd i ddod.

Er enghraifft, y strategaeth caffael (prynu) yw cynyddu cyfran y gwariant gyda chyflenwyr lleol neu ddarparwyr sy'n cefnogi cyfleoedd gwaith i ddinasyddion mwy agored i niwed neu gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaeth yn lleol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: