Gall plant a phobl ifanc sydd â mân anafiadau fynychu'r uned rhwng 8.00am ac 8.00pm.
Fel arall, os yw'n achos brys ond nid yn argyfwng, ewch i weld eich meddyg teulu, neu cysylltwch â GIG 111 Cymru yn ddi-oed gan y byddant yn gallu eich cynghori.
Efallai y gofynnir i chi fynd â phlentyn sâl i’ch Adran Achosion Brys agosaf gydag arbenigwyr plant ar y safle. Yn ein hardal ni, mae hyn yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.