Os hoffech gael cymorth ynghylch unrhyw faterion a godwyd gan yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig, cysylltwch â thîm Rhwydwaith Anhwylderau Gwaedu Cymru yn y Ganolfan Hemoffilia ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Maent wedi sefydlu llinell ffôn a chyfeiriad e-bost pwrpasol i gefnogi cleifion a theuluoedd yng Nghymru sydd wedi’u heintio neu y mae cynhyrchion gwaed halogedig wedi effeithio arnynt. Bydd y rhain yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 4.00pm.
Ebost: BDNW.InfectedBloodInquiry.Cav@wales.nhs.uk
Ffôn: 0800 952 0055
Bydd y tîm yn ymateb i'ch galwad ac yn darparu cymaint o help â phosibl wedi'i deilwra i'ch anghenion unigol. Byddwch yn cael eich cyfeirio yn unol â hynny at wasanaethau priodol gan gynnwys cymorth seicolegol, cymorth cymdeithasol a chymorth lles. Byddant hefyd yn gallu eich cyfeirio at gofnodion meddygol.
Fel arall, gallwch gysylltu â Hemoffilia Cymru drwy:
Ebost: info@haemophiliawales.org
Cliciwch yma i gysylltu â Hemoffilia Cymru drwy eu ffurflen gyswllt ar-lein (Saesneg yn unig, agor mewn dolen newydd)