Neidio i'r prif gynnwy

Ydy'r sibrydion yn wir? A yw'r bwrdd iechyd yn ceisio defnyddio hyn fel rheswm i gau ysbyty Llwynhelyg?

Nac ydym. Nid ydym yn ceisio cau ysbyty Llwynhelyg. Mae Llwynhelyg yn rhan o’n strategaeth tymor hwy fel yr amlinellwyd yn Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach (agor mewn dolen newydd). Ein gweledigaeth yw y bydd Llwynhelyg yn cael ei ailwampio ac yn parhau i ddarparu ystod o wasanaethau i'n cymuned. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod sawl ardal yn ysbyty Llwynhelyg yn hen ac angen cryn dipyn o waith - mae darganfod RAAC yn dystiolaeth bellach o hyn.

Bydd datblygiad yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd arfaethedig yn ne ardal Hywel Dda yn cymryd nifer o flynyddoedd i’w gwblhau. Rydym yn gwneud cynnydd o ran dewis leoliad ein hysbyty newydd ond ni fydd yn barod am beth amser. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i weld cynnydd yn y galw ar ein hysbytai ac nid oes bwriad i gau Llwynhelyg.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: