28 Tachwedd 2024
Mae’n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyhoeddi Gwasanaeth Carolau Amlddiwylliannol i ddathlu’r Nadolig ac i anrhydeddu ymroddiad ein staff, cleifion a gwasanaethau brys.
Cynhelir y gwasanaeth nos Lun, Rhagfyr 9fed 2024, am 7:00pm, yn Y Capel, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin, SA31 3HB.
Gwahoddir gweithwyr presennol a chyn-weithwyr, cleifion, a’r gymuned ehangach i gymryd rhan mewn eiliad o undod a myfyrio. Bydd uchafbwyntiau’r noson yn cynnwys perfformiad arbennig gan Gôr Hospital Notes, a ffurfiwyd gan staff Ysbyty Tywysog Phillip yn 2018. Bydd perfformiad arbennig o ‘Tawel Nos’ yn Iaith Arwyddion Prydain.
Rhannodd Euryl Howells, Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r digwyddiad, gan ddweud:
“Mae awyrgylch y Capel ar Barc Dewi Sant yn cynnig dihangfa unigryw a heddychlon, gan ganiatáu i ni ddod at ein gilydd a dathlu’r tymor.
“I lawer, mae’r Nadolig yn amser o ddathlu ond gall hefyd ddod â heriau, yn enwedig i’r rhai sy’n cael trafferth gydag iechyd meddwl, yn wynebu colledion personol, neu’n teimlo’n ynysig.
“Dyma gyfle i wrando, canu, a chynnig cymrodoriaeth, gan atgoffa pawb nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.”
Mae Parc Dewi Sant wedi bod yn gonglfaen i Gaerfyrddin ers tro, gyda’r safle wedi’i greu yn hanesyddol fel ysbyty iechyd meddwl. Mae’r safle yn dal lle hiraethus yn atgofion llawer yn y gymuned, gan gynnwys y rhai oedd yn addoli neu a briododd yn y capel. Mae stori unigryw i’r capel; adeiladwyd ef rhwng 1883 a 1889, gyda'r gost yn dod o elw cleifion preifat, a rhoddwyd llafur yn hael gan y staff a'r cleifion.
Mae’r gwasanaeth hwn yn agored i bawb—staff, teuluoedd, ffrindiau, cyn-weithwyr, cleifion, ac aelodau o’r gymuned ehangach. Mae digon o le parcio am ddim ar y safle.
Lleoliad: https://w3w.co/crinkled.backup.paint (agor mewn dolen newydd)
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Euryl Howells, Uwch Gaplan, ar euryl.howells2@wales.nhs.uk neu 01267 227563.