Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd menywod

Rydym am gefnogi iechyd menywod ym mhob cam o fywyd, fel eich bod chi'n teimlo'n wybodus, yn cael eich cefnogi, ac yn hyderus.

Trowch at y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am ein hybiau a'n gwasanaethau iechyd menywod sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro.

Rydym yn cydnabod nad yw rhai unigolion sydd angen mynediad at ofal iechyd menywod yn ystyried eu hunain yn fenywod na merched, ac rydym yn glir bod yn rhaid i bob gwasanaeth fod yn briodol ac yn sensitif i anghenion unigol.

Rydym yn defnyddio'r termau 'menyw' ac 'iechyd menywod' gyda'r ddealltwriaeth bod dynion traws a phobl anneuaidd a gofnodwyd yn fenywod adeg eu geni wedi'u cynnwys ac y gall fod angen mynediad at y gwasanaethau hyn arnynt hefyd.

Cynllun Iechyd Menywod Cymru yw gweledigaeth deng mlynedd Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau iechyd i fenywod yng Nghymru.

Mae'r Cynllun ar gyfer pob menyw yng Nghymru, beth bynnag fo'ch cam mewn bywyd, ac fe'i crëwyd i helpu i sicrhau eich bod yn cael eich trin yn gyfartal, eich bod yn cael gwrandawiad, a bod eich anghenion iechyd yn cael eu deall.

Ewch i Gynllun Iechyd Menywod Cymru (yn agor mewn tab newydd) i gael gwybod mwy.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: