Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ar reoli heintiau

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth diogel ar gyfer cleifion a'u hanwyliaid. Nod llawer o'r gwaith a wneir ym Mwrdd Iechyd y Brifysgol yw sicrhau bod ein staff gofal iechyd yn cael eu haddysgu'n dda, a'u bod yn cael eu harwain gan bolisïau atal a rheoli heintiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, er enghraifft polisïau yn ymwneud â hylendid dwylo ac ynysu.

Mae'r un cyngor hefyd yn berthnasol i deuluoedd neu ymwelwyr, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, pan fyddwn yn wynebu'r bygythiad o salwch tymhorol, er enghraifft y ffliw a chlefyd chwydu'r gaeaf. Tra gallai'r anhwylderau hyn godi yn y gymuned, bydd rhai yn arwain at dderbyn cleifion i ysbyty. Am y rheswm hwn, rydym yn rhoi canllawiau i ymwelwyr ynghylch yr hyn y dylent ei wneud pan fyddant yn ymweld â'n hysbytai a phryd y dylent osgoi gwneud hynny.

Darllenwch fwy am arweiniad ar ymweld ag ysbytai yma (agor mewn dolen newydd)

Peidiwch â mynd i ysbyty/ymweld ag ysbyty os yw'r canlynol yn wir:

  • rydych yn teimlo'n sâl
  • mae gennych symptomau tebyg i symptomau'r ffliw
  • rydych yn dioddef o ddolur rhydd a/neu yn chwydu ar hyn o bryd, neu roedd hyn yn wir amdanoch yn y 48 awr diwethaf
  • yn y 48 awr diwethaf, rydych wedi bod mewn cysylltiad â rhywun a oedd â'r symptomau uchod
  • mae gennych gyflwr meddygol ar hyn o bryd, neu rydych ar feddyginiaeth sy'n golygu bod cleifion mewn perygl o gael haint
     
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: