Os ydych chi'n glaf ac yn teithio i'r ysbyty neu oddi yno, fel rheol bydd disgwyl i chi drefnu eich cludiant eich hun - p'un a yw hynny'n gyrru, yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu'n gofyn am help gan deulu a ffrindiau.
Pan nad yw hyn yn bosibl, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth cludo cleifion nad yw’n frys, yn gallu defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol neu gael cymorth gyda chostau teithio.
I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth dewiswch yr opsiynau isod.
Mae'n bwysig meddwl yn ddigon cynnar am sut y byddwch yn cyrraedd ac yn gadael eich apwyntiad ysbyty. Er mwyn eich helpu i gynllunio eich taith, dyma rai opsiynau o ran cyrchu ein hysbytai:
Traveline Cymru
Mae Traveline Cymru yn wasanaeth gwybodaeth trafnidiaeth gyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru ar gyfer bysiau a thrên, yn ogystal â llwybrau cerdded a beicio.
Y pwrpas yw cynnig ‘siop un stop’ ar gyfer gwybodaeth am deithio, lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch mewn un lle, mewn ychydig o gamau syml.
Gallwch ffonio'r Ganolfan Gyswllt ddwyieithog ar y rhif rhadffôn 0800 464 0000 gydag unrhyw ymholiadau cynllunio taith sydd gennych. Mae'r ganolfan gyswllt ar gael rhwng 7am ac 8pm bob dydd, trwy gydol y flwyddyn.
Cliciwch yma i ymweld â gwefan Traveline Cymru (agor mewn dolen newydd)
Traveline Cymru Cynlluniwr Taith
Mae'r wefan yn cynnwys cynlluniwr taith i'ch helpu i ddod o hyd i'r llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus gorau ar gyfer eich taith. Unwaith y byddwch wedi gwneud eich chwiliad, fe welwch yr holl opsiynau llwybr sydd ar gael ynghyd â'r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i wneud y daith honno wedi'i harddangos yn glir ar un dudalen, gan gynnwys:
• Amseroedd teithio
• Amserlenni
• Mapiau yn dangos arosfannau bysiau
• Prisiau
• Amhariadau
Traveline Cymru Amserlenni
I ddod o hyd i wybodaeth amserlen rhowch eich rhif gwasanaeth bws yn y blwch chwilio, neu fel arall rhowch eich lleoliad i weld gwasanaethau bws sy'n rhedeg yn yr ardal honno. Yna byddwch yn gallu gweld yr amserlen lawn ar gyfer y gwasanaethau hyn, gyda'r opsiwn i lawrlwytho ac argraffu'r amserlenni hyn i'w cadw.
Traveline Cymru Map Teithio
Mae'r Map Teithio yn eich galluogi i weld pob safle bws, gorsaf drenau, arhosfan parcio a theithio a gorsafoedd Nextbike yn eich lleoliad chwilio. Yna gallwch ddewis unrhyw un o'r eiconau teithio a ddangosir ar y map i ddarganfod mwy o wybodaeth.
Traveline Cymru Ap Symudol a Gwasanaeth Testun
Mae Traveline yn cynnig ap symudol dwyieithog am ddim, a fydd yn caniatáu ichi gynllunio’ch taith, yn ogystal â dod o hyd i amserlenni ac arosfannau bysiau wrth fynd. Mae'r ap ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau iPhone ac Android.
Mae Traveline hefyd yn cynnig gwasanaeth neges destun, a fydd yn anfon gwybodaeth am amseroedd eich bws nesaf yn syth i'ch ffôn symudol.
I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio gwasanaethau symudol, ewch i'n gwefan: Traveline Cymru (agor mewn dolen newydd)
Tacsis
Mae sawl gweithredwr tacsi yn rhanbarth Hywel Dda, ac mae gan lawer ohonynt dacsis hygyrch i gadeiriau olwyn.
Mae’r gweithredwyr tacsis canlynol yn darparu gwasanaethau i’r bwrdd iechyd ac mae ganddynt gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn yn eu fflyd:
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn darparu Gwasanaeth Cludiant Cleifion Difrys i gleifion ledled Cymru nad ydynt yn gallu, am resymau meddygol, wneud eu ffordd eu hunain yn ôl ac ymlaen i'w hapwyntiadau ysbyty.
Mae'n adnodd hanfodol i helpu'r cleifion hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaeth ac ni ddylai gael ei ddefnyddio gan y rhai heb angen meddygol.
Sylwch nad yw angen am driniaeth yn awgrymu angen am gludiant yn awtomatig. Mae proses cymhwyster bod gofyn i'r holl gleifion i fynd drwodd i sicrhau bod eich anghenion yn briodol ar gyfer y gwasanaeth.
Gallech fod yn gymwys i gael cludiant ysbyty os;
I weld a ydych yn gymwys, defnyddiwch y gwiriwr ar-lein sydd ar gael yma (agor mewn dolen newydd)
Pan fyddwch yn ffonio, bydd cynghorydd yn asesu eich anghenion trafnidiaeth. Os ydych chi'n gymwys, trefnir cludiant ar eich cyfer chi.
Ar gyfer pob ymholiad, neu i archebu neu ganslo cludiant gan ysbyty, ffoniwch y rhifau ffôn canlynol:
Rhif Ffôn: 0300 1232 303 os ydych wedi eich cofrestru gyda phractis meddyg teulu yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro
Amseroedd agor:
Os ydych chi wedi derbyn cludiant ysbyty di-argyfwng yn ddiweddar gan Ambiwlans Cymru yna cliciwch yma i gwblhau arolwg byr am eich profiad (agor mewn dolen newydd).
Mae yna nifer o sefydliadau cludiant cymunedol a gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau cludiant. Weithiau gallant helpu gyda chludiant os nad ydych yn gymwys ar gyfer cludiant cleifion nad ydynt yn rhai brys neu os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Cymdeithas Mudiadau Trafnidiaeth Gymunedol Sir Benfro (PACTO)
Rhif Ffôn: 0800 783 1584
Cliciwch yma i ymweld â gwefan PACTO (agor mewn dolen newydd)
Ceir Cefn Gwlad Sir Gaerfyrddin (Gwasanaeth Gwirfoddol)
Rhif Ffôn: 07585 997091
Ceir Cefn Gwlad Ceredigion (Gwasanaeth Gwirfoddol)
Rhif Ffôn: 07812 485809
Ceir Gwledig Sir Benfro (Gwasanaeth Gwirfoddol)
Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot, Penfro a Doc Penfro rhif ffôn 07771 334406
Aberdaugleddau, Dale a Neyland rhif ffôn 07884 548162
Hwlffordd,Trefdraeth, Abergwaun, Arberth a phob maes arall rhif ffôn 07585 997091
Dolen Teifi Trafnidiaeth Cymunedol
Rhif Ffôn: 01559 362403
Cliciwch yma i ymweld â gwefan Dolen Teifi Tafnidiaeth Cymunedol (agor mewn dolen newydd)
Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA)
Rhif Ffôn: 01792 844 290
Cliciwch yma i ymweld â gwefan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol (agor mewn dolen newydd)
Uned drafnidiaeth ganolog
Gellwch hefyd gysylltu â'n tîm cludiant ni, a allai eich cynorthwyo neu eich cyfeirio at gynlluniau cludiant lleol eraill neu drafnidiaeth gyhoeddus.
Rhif Ffôn: 01267 229 620
Cliciwch yma i gael help gyda chostau teithio (agor mewn dolen newydd)
Gallech fod â hawl i help gyda chostau yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Ydych chi’n derbyn budd-dâl sy’n seiliedig ar incwm?
Os ydych chi’n derbyn un o’r budd-daliadau hyn mae’n bosibl y gallech hawlio ad-daliad ar gyfer costau teithio hanfodol:
Y Credyd Cynhwysol, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n Seiliedig ar Incwm, Credyd Gwarant y credyd Pensiwn, neu mae eich enw ar Dystysgrif Eithrio Credyd Treth y GIG neu mae gennych hawl i Dystysgrif o’r fath.
Nid wyf yn derbyn y budd-daliadau hyn ond mae gennyf incwm isel?
Mae’n bosibl eich bod chi’n dal i fod yn gymwys i gael ad-daliad drwy gynllun incwm isel y GIG. Gallwch wneud cais am asesiad cymhwysedd ar gyfer hyn gan ddefnyddio ffurflen HC1 y gellir ei chael yn eich canolfan byd gwaith neu’ch ysbyty lleol.
Pa ddogfennau fydd eu hangen arna i?
Bydd angen i chi darparu cerdyn neu lythyr apwyntiad ysbyty, copïau gwreiddiol o unrhyw dderbynebau teithio, a phrawf eich bod chi’n gymwys i dderbyn budd-dal neu brawf o gymhwysedd Cynllun Incwm Isel y GIG neu dystysgrif eithrio credyd treth y GIG.
Os ydych chi'n hawlio ar gyfer apwyntiad plentyn bydd angen dangos llythyr cymhwyso sy’n cynnwys enw’r plentyn.
Sut ydw i’n hawlio?
Mae pob ysbyty’n wahanol ond caiff y rhan fwyaf o hawliadau eu trin gan y Swyddfa Ganolog neu'r Swyddfa Dalu. Bydd angen i chi fynd i’r swyddfa pan fyddwch yn cyrraedd i gael ffurflen i fynd â hi i’r ymgynghorydd, a fydd yn ei harwyddo a'i stampio. Yna bydd angen i chi ddod â hi nôl i’r swyddfa i gael ad-daliad llawn neu rannol.
Faint alla i hawlio?
Os byddwch chi’n gymwys bydd hawl gennych i ad-daliad llawn neu rannol o gostau teithio angenrheidiol sy’n gyfwerth â’r dull teithio rhesymol rhataf, sef cludiant cyhoeddus gan amlaf. Fel arfer ni thelir cost tacsi oni bai bod hyn wedi’i gytuno ymlaen llaw.
Os bydd cleifion yn defnyddio’u ceir eu hunain, y gyfradd petrol yw 15c y fillir. Gellid ad-dalu cost tollau a pharcio na ellir eu hosgoi.
A oes cyfyngiad amser?
Os na allwch hawlio ar y diwrnod ei hun, mae’n bosibl y byddwch yn gallu dod yn ôl i gael yr arian ar ddyddiad arall. Fel arall bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen ad-daliad HC5(T), ond rhaid aros nifer o wythnos iddi gael ei phrosesu.
Oni bai nod amgylchiadau eithriadol rhaid gwneud hawliad o fewn tri mis.
A allai wneud cais i rywun ddod gyda fi?
Dim ond os ydych wedi cytuno bod rhywun yn dod gyda chi ymlaen llaw am resymau meddygol neu os yw plentyn 16 oed neu’n is yn dod gyda rhiant neu warcheidwad.
Alla i hawlio ar gyfer ymweld â rhywun yn yr ysbyty?
Na. Nid yw'r cynllun yn cynnwys ymwelwyr ond mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad neu grant wrth y Gronfa Gymdeithasol drwy eich canolfan byd gwaith agosaf
Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?
Gall yr ysbyty lle rydych yn cael eich triniaeth roi cyngor i chi am hawlio cost teithio, yn y swyddfa gyffredinol fel arfer. Byddant hefyd yn gallu darparu’r ffurflenni cywir. Cliciwch yma am wybodaeth ar cymorth costau teithio (agor mewn dolen newydd)
Dychwelyd adref o'r ysbyty
Os byddwch yn cael anhawster dychwelyd adref, siaradwch ag aelod o staff, fel y gall helpu os yw'n bosibl. Gall chwiorydd ward a rheolwyr safle ysbytai ystyried talu am dacsi dan gontract o dan amgylchiadau dim cludiant amgen ar gyfer cleifion oedrannus eiddil a theuluoedd ifanc bregus. Y penderfyniad terfynol yw chwaer y ward a rheolwr safle'r ysbyty.