Canllaw bwyta’n dda
Defnyddlwch y canllaw bwyta’n dda i’ch helpu i fwyta cydbwysedd o fwydydd iachach a mwy cynaliadwy. Mae’n dangos faint o’ch holl, fwydydd a ddylai ddod o bob grwp bwyd.
Mae'r ddelwedd ar y dde yn gynrychiolaeth weledol o'r wybodaeth ganlynol.
- Dylai oedolion benywaidd fwyta 2000 Kcal y dydd. Dylai gwrywod sy'n oedolion fwyta 2500 Kcal y dydd. Mae hynny'n cynnwys pob bwyd a diod.
- Darllenwch y label ar becynnau bwyd. Bydd yn dangos y ganran o faint dylai oedolyn dderbyn bob dydd. Dewiswch fwydydd sy’n is mewn braster, halen a siwgrau.
- Mae dŵr, llaeth braster is, diodydd heb siwgr gan gynnwys te a choffi - i gyd yn cyfrif. Peidiwch a chymryd mwy na 150ml y diwrnod o sudd ffrwythau a/neu smwddis
- Byrbrydau - Bwytewch y rhain yn llai ami, mewn dognau bach.
- Ffrwythau a llysiau – Bwytewch a leiaf 5 dogn a amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd.
- Tatws, bara, reis, pasta a charbohydradau startslyd eraill - Dewiswch fersiynau grawn cyfan neu ffeibr uchel sy’n cynnwys llai o fraster, halen a siwgr ychwanegol.
- Olew a thaenyddion - Dewiswch olewydd annirlawn gan ddefnyddio ychydig bach yn unig.
- Cynnyrch llaeth a dewisiadau amgen - Dewiswch opsiynau a llai o fraster a llai o siwgr.
- Ffa, codlysiau, pysgod, wyau, cig a phrotinau eraill - Bwytewch fwy o ffa a chodlysiau. Dau ddogn o bysgod o ffynhonnell gynaliadwy bob wythnos, un o’r rhain yn olewog. Bwytewch lai o gig coch a chig wedi’i brosesu.
Tra yn yr ysbyty
Maint dognau: ceisiwch fwyta tua’r un faint o fwyd ag y byddwch yn ei fwyta gartref; gallwch ofyn am blatiad bach, canolig neu fawr.
Os am bwdin iachach dewiswch ffrwythau, iogwrt neu ddogn o gwstard. Os nad ydych yn bwyta pwdin poeth gartref byddai’n well peidio â dewis pwdin poeth yn rheolaidd pan fyddwch yn yr ysbyty.
Os oes arnoch eisiau bwyd rhwng prydau mae’r byrbrydau iachach yn cynnwys: gwydraid o laeth (hanner sgim), ffrwythau ffres neu botiau o ffrwythau wedi’u sleisio, iogwrt, tafell o dôst neu 2-3 cracer.
Yfwch ddigon. Bydd rhywun yn dod heibio’n rheolaidd i gynnig diod boeth. Os ydych yn defnyddio melysydd fel arfer, gofynnwch am beth - mae ar gael. Mae dŵr yfed ffres ar gael bob amser, a gallwch ofyn am sudd hefyd.
Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am fwyta’n iach neu ddewis bwydydd iach oddi ar y fwydlen holwch un o’r staff