Mae maethiad da yn bwysig iawn i'ch adferiad a'ch lles. Bydd yr arweiniad hwn yn eich helpu i ddewis yn dda o fwydlenni'r ysbyty. Nod yr arweiniad hwn yw eich helpu i ddewis yn dda o fwydlenni'r ysbyty.
Os oes angen diet arbennig arnoch, nid yw'r wybodaeth hon yn addas. Efallai y bydd angen diet arbennig arnoch os oes gennych alergedd neu anoddefiad bwyd, clefyd coeliag neu os oes angen diet wedi'i addasu â gwead arnoch. Yn yr achos hwn bydd bwydlenni penodol yn cael eu darparu, a gall y tîm gofal iechyd eich helpu gyda mwy o gyngor.
Byddwch yn cael eich sgrinio am risg maethol pan fyddwch yn cael eich derbyn i'r ysbyty. Gwnawn hyn i'n helpu ni i'ch cefnogi os ydych mewn perygl o ddiffyg maeth. Gall hyn niweidio'ch adferiad a'ch lles.
Os oes gennych ddiabetes a bod angen mwy o gymorth arnoch i ddewis eich diet tra yn yr ysbyty, siaradwch ag aelod o'r tîm nyrsio.