Tra byddwch yn glaf mewnol bydd ein tîm arlwyo yn darparu eich prydau. Yn ogystal, mae amrywiaeth o fyrbrydau rhwng prydau ar gael ar y ward a thros nos.
Mae maethiad da yn rhan bwysig o'ch adferiad pan fyddwch yn yr ysbyty. Os ydych chi'n cael trafferth bwyta, os nad oes gennych chi archwaeth am fwyd, neu'n ei chael hi'n anodd dewis o'r opsiynau sydd ar gael, siaradwch ag aelod o staff. Byddant yn hapus i'ch helpu a thrafod y dewisiadau eraill sydd ar gael.
Gweler isod ein bwydlenni sy'n manylu ar y dewisiadau sydd ar gael. Mae’r bwydlenni’n cynnig amrywiaeth o brydau dros gyfnod o bythefnos, bydd aelod o dîm y ward yn gallu dweud wrthych ba fwydlen sy’n weithredol.
Mae'r fwydlen yn nodi pa brydau sy'n addas i lysieuwyr gyda'r symbol canlynol (V).
Yn ogystal â’n prif fwydlenni, rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fwydlenni deiet penodol ac arbennig gan gynnwys:
- Bwydlen heb glwten - addas ar gyfer pobl â chlefyd seliag neu'r rhai sy'n dewis peidio â bwyta glwten.
- Bwydlen fegan – bwydlen seiliedig ar blanhigion, yn rhydd o gynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid.
- Bwydlen prydau ysgafn - Os yw'ch archwaeth yn wael neu os ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i rywbeth ar y brif fwydlen, rydyn ni'n cynnig bwydlen prydau ysgafn sydd â dewisiadau syml, dogn bach yn lle opsiynau'r brif fwydlen.
- Bwydlen bwyd bys a bawd – bwydlen o eitemau bwyd wedi’u cynllunio ar gyfer pobl sy’n cael trafferth bwyta prif bryd.
- Bwydlen heb wyau - addas ar gyfer pobl sy'n anoddefgar i wyau neu'r rhai sy'n dewis peidio â bwyta wyau neu gynhyrchion sy'n cynnwys wyau.
- Bwydlen heb laeth - addas ar gyfer pobl sy'n anoddefgar i laeth neu'r rhai sy'n dewis peidio â bwyta llaeth neu gynhyrchion sy'n cynnwys llaeth.
- Deietau wedi'u Haddasu i'w Gwead (TMD) y cyfeirir ato hefyd fel y Fenter Safoni Deiet Dysffagia Rhyngwladol (IDDSI) - mae'r prydau hyn ar gael pan gânt eu rhagnodi'n benodol gan ein timau therapi iaith a lleferydd. Mae bwyd yn cael ei baratoi mewn ffordd arbennig i greu gwead neu gysondeb penodol, gan ei gwneud hi'n fwy diogel i bobl ag anawsterau llyncu ei fwyta. Mae tair lefel o TMD:
- Deiet pur neu IDDSI lefel 4. Mae bwyd piwrî yn drwchus, yn llyfn ac yn llaith heb unrhyw lympiau. Nid oes angen ei gnoi a dylai fod yn un cysondeb unigol. Ni ddylai wahanu'n hylif a solid.
- Deiet wedi ei dorri’n fân a llaith, neu IDDSI lefel 5. Dylai bwyd fod yn hawdd ei dorri’n fân neu ei stwnsio â fforc. Gellir ei gyflwyno fel piwrî trwchus gyda lympiau amlwg ynddo. Dylai bwyd fod yn llaith a dylai ffurfio pêl yn y geg yn hawdd.
- Deiet meddal a bach neu IDDSI lefel 6. Gall bwydydd fod yn naturiol feddal neu gellir eu coginio neu eu torri i sicrhau eu bod yn ddigon meddal. Gellir cnoi'r bwydydd hyn yn hawdd ac nid oes angen eu stwnsio, eu minsio na'u cymysgu. Dylid osgoi bwydydd caled, sych neu friwsionllyd.
Os oes gennych alergedd neu anoddefiad bwyd, byddwch yn cael cynnig bwydlen a fydd yn bodloni eich anghenion deietegol penodol.
Os hoffech gael help i ddewis yr opsiynau bwydlen mwyaf maethlon cliciwch yma i ddarllen ein cyngor bwydlen (yn agor mewn dolen newydd)
Amseroedd bwyd
Brecwast 8.00am - 8.30am
Cinio 12.30pm - 1.00pm
Swper 5.30pm - 6.00pm
Sut i archebu
Bydd aelod o staff yn dod i'ch ward bob bore i gymryd eich archeb am ginio a swper. Bydd eich dewisiadau wedyn yn cael eu dosbarthu i chi yn ystod yr amseroedld bwyd penodedig.
Bwydlenni