Mae yswiriant gwladol yn dreth ar enillion ac elw hunangyflogaeth. Trwy dalu yswiriant gwladol, rydych yn gymwys i gael budd-daliadau'r wladwriaeth, er bod y rhain yn amrywio yn ôl pa un a ydych mewn cyflogaeth, yn hunangyflogedig neu'n gwneud cyfraniadau gwirfoddol.
Pan fyddwch mewn cyflogaeth caiff yswiriant gwladol ei ddidynnu'n awtomatig o'ch cyflog misol. Mae'n ofynnol i bawb sy'n gymwys i weithio yn y DU gael rhif yswiriant gwladol, sef cod unigryw sy'n benodol i'r unigolyn. Os byddwch yn symud i'r DU, efallai y bydd eich rhif yswiriant gwladol wedi'i argraffu ar gefn eich trwydded breswyl fiometrig.
Os nad oes gennych rif yswiriant gwladol, rhaid i chi wneud cais am un trwy gysylltu â Chyllid a Thollau ei Fawrhydi (CThEF) neu wneud cais ar-lein. Bydd angen i CThEF brofi eich hunaniaeth, a bydd yn gofyn am ddogfennau penodol.
Gall dogfennau adnabod derbyniol gynnwys eich pasbort, trwydded breswyl, tystysgrif geni, cyfriflenni banc neu filiau cyfleustodau (rhaid iddynt ddyddio o'r tri mis diwethaf).
Ewch i wefan y llywodraeth yma i wneud cais am rif yswiriant gwladol [yn agor mewn tab newydd].