Neidio i'r prif gynnwy

Adleoli i'r ardal

Ad-dalu costau adleoli

Mae polisi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynglŷn ag ad-dalu costau adleoli ar gyfer staff newydd a recriwtiaid cymwys ar waith i hwyluso'r broses o symud i ardal newydd. Mae hefyd yn egluro pa gymorth ariannol sydd ar gael i bob darpar gyflogai, ac o dan ba amgylchiadau.

Edrychwch ar bolisi costau adleoli y Bwrdd Iechyd yma (yn agor mewn tab newydd).

 

Llety

Efallai y bydd llety meddiannaeth unigol byrdymor ar gael ar y safle ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n adleoli i'r ardal hon. Gall recriwtiaid cymwys wneud cais am gymorth llety trwy'r tîm recriwtio (yn agor mewn tab newydd).

 

Dod o hyd i rywle i'w rentu

Pan fyddwch wedi cael cynnig swydd a fisa, gallwch ddechrau chwilio am rywle i'w rentu. Gallwch chwilio ar-lein am wefannau chwilio am eiddo – megis gwerthwyr tai lleol yn yr ardal lle y byddwch yn byw. Yna, byddwch yn gallu edrych ar eiddo.

Er mwyn rhentu, bydd arnoch angen y canlynol:

  • Blaendal – fel arfer, cost y rhent am un i dri mis
  • Ffioedd gweinyddu eraill – dylech allu gweld manylion yr holl ffioedd yn glir ar wefan yr asiant
  • Prawf o hunaniaeth, statws o ran mewnfudo a statws cyflogaeth
  • Geirdaon

Ewch i'n tudalennau gwe Byw yn ardal Hywel Dda i weld cyfoeth o wybodaeth i'ch helpu i ymgartrefu yn yr ardal. (yn agor mewn tab newydd).

Buddion a Gwerthoedd

Rydym yn rhoi gwerth ar ein staff gweler ein rhwydweithiau a'n…

Cysylltu a'r Tim Recriwtio

Gallwn ddarparu cymorth i chi ddod o hyd i'r swydd iawn ar eich…

Swyddi Gwag Cyfredol

Mae gennym amrywiaeth o swyddi gwag ar gael mynnwch olwg 

traeth

Byw yn ardal Hywel Dda

Teithiau rhithwir byw a gweithio yn Hywel Dda