Lawrlwythwch gopi o'r llyfryn staff meddygol a deintyddol yma (PDF, 632KB, agor mewn dolen newydd). Rydym yn ymwybodol nad yw'r ddogfen yn cydymffurfio â'r Safonau Hygyrchedd Digidol ac mae wedi'i chynnwys at ddibenion lawrlwytho ac argraffu yn unig. Rydym wedi cynnwys y fersiwn testun yn unig isod.
Diolch am ystyried Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel eich cyflogwr o ddewis.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
Rydym yn ymrwymedig i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus ein meddygon. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cynnal ac ehangu eu sgiliau, gwybodaeth, a pherfformiad. Anogwn gyfranogiad mewn amryw o gyrsiau sydd ar gael yn un o’n pum Canolfan Addysg Feddygol ar draws y Bwrdd Iechyd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gartref i bum llyfrgell ysbyty, wedi’u lledaenu ar draws ei brif safleoedd, wrth gynnig cefnogaeth amhrisiadwy i’n gweithwyr gofal proffesiynol, myfyrwyr a staff.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar ein buddion (agor mewn dolen newydd)
Mae gan Hywel Dda wasanaeth lles seicolegol unigryw i holl aelodau o staff. Mae’r gwasanaeth yn cynnig ystod o wybodaeth a gwasanaethau wedi’u gynllunio i hyrwyddo iechyd sefydliadol a lles seicolegol a chyfrannu ar ddiwylliant o lesiant, gwydnwch a hunanofal effeithiol.
Mae’r bwrdd iechyd yn gweithredu i lefel ddiffiniedig o werthoedd sefydliadol. Mae’n ddisgwyliedig i bawb gallu arddangos ymrwymiad i’r gwerthoedd yma, o’r pwynt o ymgeisio hyd y ddarpariaeth o ddydd i ddydd yn eu rolau. Datblygwyd y gwerthoedd yma gan ein staff i ni gyd ac maent yn an-drafodwy ac yn rhan annatod o Hywel Dda.
Rydym yn disgwyl i bawb arddangos naw gwerth personol yn Hywel Dda ym mhob peth gwnawn.
Y rhain yw urddas, parch, tegwch, uniondeb, gonestrwydd, bod yn agored, gofal, caredigrwydd a thrugaredd.
Byddwch yn mwynhau amodau cyflogaeth rhagorol, wrth adeiladu eich dyfodol yn un o leoliadau gorau'r DU. Mae gorllewin Cymru yn brydferth, gan rannu arfordiroedd garw â mynyddoedd niwlog. Gellir cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr awyr agored, tra bod cyfleusterau trefol fel Abertawe a Chaerdydd ddim rhy bell. Mae cyflymder bywyd yn gallu bod yn gyflym neu’n araf, gydag ystod amrywiol o bobl yn rhannu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ar draws y rhanbarth, gydag ysgolion o ansawdd uchel, a gyda phrisiau tai rhesymol yn cyfrannu at gostau byw isel ac ansawdd bywyd uchel.
P'un a ydych chi'n symud o fewn ffiniau'r sir, neu'n symud o ymhellach i ffwrdd, rydym yn gobeithio y byddwch chi'n mwynhau ymgartrefu yn eich cartref a'ch cymuned newydd.
O ysgolion, i drafnidiaeth, i leoedd addoli, mae gennym bopeth i helpu chi ymgartrefu yn eich ardal newydd.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am fyw yn yr ardal (agor mewn dolen newydd)
Mae yna bolisïau a phrotocolau sy’n berthnasol i holl staff meddygol a deintyddol yn GIG Cymru, neu i holl gyrff cyflogi GIG yng Nghymru.
Rydym eisiau sicrhau fod pawb sy’n ymuno â Hywel Dda yn cael dechreuad da, a gobeithiwn fod y wybodaeth ar y tudalennau yma yn ateb rhai o’ch ymholiadau cychwynnol, a'ch helpu i ymgartrefu i’ch rôl a chymuned.
Cliciwch yma i ymweld â'n hyb ymgeiswyr am ragor o wybodaeth (agor mewn dolen newydd)
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â recruitmentcampaigns.hdd@wales.nhs.uk