Gall symud i wlad newydd a dechrau rôl newydd fod yn antur gyffrous, ond efallai y bydd arnoch angen rhywfaint o help wrth i chi ymgyfarwyddo â'ch rôl newydd. Os ydych yn ymuno â Hywel Dda o dramor, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â bydi – sef aelod presennol o staff a fydd yn eich cynorthwyo i ganfod eich traed a chysylltu â'ch cydweithwyr newydd. Os hoffech i ni ddod o hyd i fydi i chi, cysylltwch â ni: RecruitmentCampaigns.hdd@wales.nhs.uk
Enfys yw cymuned fywiog staff a chynghreiriaid LHDTC+ y bwrdd iechyd sy’n cynnig cymorth, cyngor a chyfleoedd rhwydweithio. I ymuno, cysylltwch â'r grŵp, yma: Enfys.lgbt@wales.nhs.uk
Mae ein rhwydwaith staff a chynghreiriaid Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn rhwydwaith cymorth amlddiwylliannol sy'n helpu i hybu cynhwysiant ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol, ac yn dathlu ein gwahaniaethau diwylliannol.
Rhwydwaith cymorth ar gyfer Cyn-filwyr, Milwyr Wrth Gefn, Cadetiaid Gwirfoddol sy’n Oedolion ac aelodau o’u teuluoedd sydd mewn cyflogaeth yn Hywel Dda. Mae’r rhwydwaith yn fan diogel lle y gall staff gyfnewid gwybodaeth am wasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt, profi cyfeillgarwch, lleisio pryderon yn ymwneud â chyflogaeth, gwrando ar farn ynghylch gweithgareddau sy’n effeithio arnynt, a chroesawu aelodau newydd o’r gymuned yn y bwrdd iechyd.
Mae’r rhwydwaith Gofalwyr yn cefnogi ein staff sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind yn eu bywyd personol. Os hoffech ymuno â’r rhwydwaith Gofalwyr, cysylltwch ag: Inclusion.hdd@wales.nhs.uk
Mae’r Caffi Menopos yn rhwydwaith anffurfiol ar gyfer staff y mae'r menopos yn effeithio arnynt – cyfle i gyd-weithwyr sgwrsio a chefnogi ei gilydd.