A ydych yn chwilio am wybodaeth leol? Mae gan wefan yr awdurdod lleol gyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol p'un a ydych yn bwriadu ymweld â'r ardal, neu'n awyddus i aros yn hirach. Yn ogystal â gwybodaeth am oriau agor y canolfannau hamdden, manylion am ein hysgolion lleol, teithio a pharcio, a dyddiadau'r gwasanaeth casglu biniau, mae gan y Cyngor dimau penodol a all roi cyngor i chi ynghylch pa gymorth a allai fod ar gael i chi a'ch teulu.
Cyngor Sir Ceredigion (yn agor mewn tab newydd)
Yn ogystal â’r cyfleoedd dysgu sydd ar gael i chi, a chithau'n aelod o'r staff, mae yna nifer o gyfleoedd ar gael trwy’r colegau a’r prifysgolion lleol. Mae rhagor o wybodaeth am addysg yng Ngheredigion ar gael yma (yn agor mewn tab newydd).
Os oes angen i chi gofrestru eich plentyn mewn ysgol leol, ac i gael gwybodaeth am ddalgylchoedd lleol, gallwch ddod o hyd i fanylion y broses dderbyn leol yma (yn agor mewn tab newydd).