Neidio i'r prif gynnwy

Colegau a Phrifysgolion

Prifysgolion

Prifysgol Aberystwyth (yn agor mewn tab newydd) 

​Enillodd prifysgol hynaf Cymru, sef Prifysgol Aberystwyth, y bleidlais ar gyfer y brifysgol orau yng Nghymru a Lloegr ar gyfer boddhad y myfyrwyr yn 2022.​ Mae'n brifysgol a arweinir gan ymchwil, ac yn ddiweddar agorodd ei Hysgol Nyrsio sy'n gweithio mewn partneriaeth â Hywel Dda i ddatblygu ein gweithlu nyrsio ar gyfer y dyfodol.

Prifysgol Abertawe (yn agor mewn tab newydd) 

Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi'i lleoli yn ninas Abertawe. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod, ac yn cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil gwych, ynghyd ag ansawdd bywyd rhagorol.

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) (yn agor mewn tab newydd) 

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), a ddathlodd ei phen-blwydd yn 200 oed yn 2022, yn brifysgol aml-gampws sydd â thri phrif gampws yn ne-orllewin Cymru – Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Abertawe. Trwy ddysgu seiliedig ar waith, ymchwil o ragoriaeth ryngwladol, a rhwydweithiau trosglwyddo gwybodaeth, nod PCYDDS yw chwarae rhan ganolog yn y gwaith o hybu cyfiawnder cymdeithasol, adnewyddu'r economi, a datblygu cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol.

 

Colegau

Coleg Ceredigion (yn agor mewn tab newydd)

Mae'r coleg hwn yn goleg bywiog, egnïol a gofalgar sy'n gosod cyflawniad a llesiant y dysgwyr ar frig ei agenda. Mae ganddo ddau gampws: un yn Aberteifi ac un yn Aberystwyth. Mae yna ystod eang o gyrsiau, o gymwysterau Safon Uwch a phrentisiaethau, i ddosbarthiadau nos a graddau. Mae dysgu llawn-amser a rhan-amser yn bosibl yn y coleg os ydych mewn cyflogaeth ar hyn o bryd.

Mae gan y coleg amrywiaeth enfawr o gyrsiau ar lefelau gwahanol, o TGAU i fynediad i addysg uwch, ac mae nifer o'r cyrsiau ar gael ar-lein. Mae astudio rhan-amser hefyd ar gael yn y coleg os ydych mewn cyflogaeth ar hyn o bryd. Mae yna gyfleoedd hefyd i ymgymryd â phrentisiaethau.

Coleg Sir Gâr (yn agor mewn tab newydd) 

Mae’r coleg hwn yn rhan o Grŵp PCYDDS ac mae ganddo bum prif gampws, sef Llanelli (y Graig), Caerfyrddin (Pibwrlwyd a Ffynnon Job), Rhydaman a Llandeilo (y Gelli Aur). Dyma hefyd gartref Ysgol Gelf Caerfyrddin.

Mae gan y coleg amrywiaeth enfawr o gyrsiau ar lefelau gwahanol, o TGAU i fynediad i addysg uwch, ac mae nifer o'r cyrsiau ar gael ar-lein. Mae astudio rhan-amser hefyd ar gael yn y coleg os ydych mewn cyflogaeth ar hyn o bryd. Mae yna gyfleoedd hefyd i ymgymryd â phrentisiaethau.

Coleg Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) 

Y coleg hwn yw darparwr mwyaf addysg a hyfforddiant ôl-16. Mae wedi ei leoli ar gampws modern, pwrpasol yn Hwlffordd. Mae yna ystod eang o gyrsiau, o gymwysterau Safon Uwch a phrentisiaethau, i ddosbarthiadau nos a graddau. Mae dysgu llawn-amser a rhan-amser yn bosibl yn y coleg os ydych mewn cyflogaeth ar hyn o bryd.

Mae gan y coleg amrywiaeth enfawr o gyrsiau ar lefelau gwahanol, o TGAU i fynediad i addysg uwch, ac mae nifer o'r cyrsiau ar gael ar-lein. Mae astudio rhan-amser hefyd ar gael yn y coleg os ydych mewn cyflogaeth ar hyn o bryd. Mae yna gyfleoedd hefyd i ymgymryd â phrentisiaethau.

Buddion a Gwerthoedd

Rydym yn rhoi gwerth ar ein staff gweler ein rhwydweithiau a'n…

Cysylltu a'r Tim Recriwtio

Gallwn ddarparu cymorth i chi ddod o hyd i'r swydd iawn ar eich…

Swyddi Gwag Cyfredol

Mae gennym amrywiaeth o swyddi gwag ar gael mynnwch olwg 

traeth

Byw yn ardal Hywel Dda

Teithiau rhithwir byw a gweithio yn Hywel Dda