[diweddarwyd Chwefror 2023]
Peidiwch ag ymweld ag unrhyw un o’n hysbytai os yn:
- teimlo'n sâl;
- â symptomau tebyg i ffliw neu haint anadlol;
- yn dioddef, neu wedi cael, dolur rhydd a/neu chwydu yn y 48 awr diwethaf;
- wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un sydd â'r symptomau uchod yn ystod y 48 awr ddiwethaf;
- â chyflwr meddygol yn barod neu ar feddyginiaeth sy'n eu rhoi mewn perygl o haint.
Cyngor ar reoli heintiau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (agor mewn dolen newydd)
Rydym yn cydnabod manteision therapiwtig cleifion yn derbyn ymwelwyr a'r cyfraniad y gallant ei wneud i les cyffredinol cleifion.
Mae ein trefniadau ymweld isod yn galluogi ein cleifion i gael ymwelwyr tra'n diogelu eu preifatrwydd a'u hurddas, a sicrhau eu bod yn derbyn gofal mewn amgylchedd diogel ac effeithlon.
- Cytunir mai oriau ymweld safonol neu graidd ar gyfer wardiau cyffredinol yw 2pm-4pm a 6pm-8pm.
- Gall prif nyrsys ward/bydwragedd â gofal ddefnyddio eu disgresiwn i hwyluso ymweliadau y tu allan i oriau craidd ac mewn amgylchiadau eithriadol.
- Dim ond dau ymwelydd a ganiateir wrth erchwyn y gwely ar unrhyw un adeg.
- Mae ymweliadau agored/hyblyg ar waith mewn unedau gofal critigol ac arbenigol.
- Anogir ymweld ‘drwy apwyntiad’ i atal gorlenwi mewn cilfach/ward ar unrhyw un adeg a bydd yn cael ei fabwysiadu pan fydd nifer cynyddol o achosion o glefydau trosglwyddadwy penodol yn y boblogaeth gyffredinol, er enghraifft, COVID-19 neu ffliw.
- Os oes ymweliadau ‘drwy apwyntiad’ yn eu lle, caiff hyn ei gyfleu i gleifion ac ymwelwyr.
- Mae amseroedd bwyd yn parhau i gael eu diogelu fel amseroedd tawel, gyda'r opsiwn i ymwelwyr/gofalwyr wneud trefniadau gyda phrif nyrs y ward i gynorthwyo gyda bwydo fel y bo'n briodol.
- Lle bo’n briodol, gellir cefnogi ‘ymweliad rhithwir’.
- Cynghorir pob ymwelydd i beidio ag ymweld os yw'n sâl gyda haint gastroberfeddol neu resbiradol.
- Gellir cyflwyno trefniadau ymweld penodol i atal trosglwyddo haint, er enghraifft, yn ystod achos o haint ar y ward.
- Helpwch ni i atal heintiau rhag lledaenu bob amser a glanhewch eich dwylo cyn ac ar ôl i chi adael y ward.
- Dim ond yn ôl disgresiwn prif nyrs y ward neu'r adran y caniateir blodau. Os caniateir, dylid eu danfon/cadw mewn fâs dafladwy neu Aquapack. Ein cyngor yn gyffredinol yw aros i glaf gael ei ryddhau o'r ysbyty cyn anfon blodau.
Mae Polisi Ymweld Cleifion Mewnol y bwrdd iechyd ar gael i’w ddarllen yn llawn yma (agor mewn dolen newydd)