Neidio i'r prif gynnwy

Llesiant a hwyliau

Gall ansicrwydd ynghylch eich iechyd, eich gofal a'ch triniaeth beri straen. Ni waeth beth yw eich sefyllfa, gall fod yn ddefnyddiol cael trefn ddyddiol lle mae yna gydbwysedd rhwng gweithgareddau sy'n: 

  • rhoi ymdeimlad o gyflawniad i chi 
  • eich helpu i deimlo'n agos at eraill ac mewn cysylltiad â nhw
  • eich galluogi i'w cyflawni er pleser yn unig 

 

Awgrymiadau defnyddiol:

Dyma enghreifftiau o weithgareddau a allai helpu eich llesiant: 

  • Gwnewch weithgareddau yr ydych yn eu mwynhau – darllenwch lyfr neu gylchgrawn; gwyliwch y teledu neu ffilm; byddwch yn greadigol trwy baentio, gwau neu dynnu lluniau 
  • Neilltuwch amser i ofalu amdanoch eich hun – treuliwch amser yn y bàth; paentiwch eich ewinedd; gwrandewch ar gerddoriaeth; paratowch bryd bwyd ffres 
  • Treuliwch amser yn yr awyr agored neu'n eistedd wrth ffenestr agored – plannwch rywbeth; casglwch flodau; gwrandewch ar natur 
  • Byddwch yn egnïol – ewch am dro hamddenol neu gwnewch ychydig o ymarferion ymestyn ysgafn 
  • Cysylltwch ag eraill – siaradwch ag aelodau'r teulu, ffrindiau a chymdogion; ysgrifennwch lythyrau neu gardiau post 
  • Gofalwch am eich amgylchedd – glanhewch neu tacluswch ardal yn eich cartref; golchwch ddillad; atgyweiriwch rywbeth 
  • Rhowch gynnig ar ymarferion ymlacio neu ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar  
  • Gofalwch fod gennych rywfaint o strwythur i'ch diwrnod – mynd i'r gwely a chodi ar yr un adeg bob dydd 
  • Ar ddiwedd y dydd, byddwch yn garedig wrthych eich hun a myfyriwch ar dair elfen gadarnhaol, ni waeth pa mor fach ydynt. 
     

Adnoddau defnyddiol:

Dyma leoedd eraill lle gallwch ddod o hyd i ragor o gyngor a chymorth ar gyfer eich llesiant: 

Hunangymorth IAWN Hywel Dda  

Fideos a Chanllawiau Hunangymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Llesiant – Bywyd Actif  

Cwrs therapi iechyd meddwl GIG Cymru ar-lein - gyda SilverCloud

Maggie’s Swansea - Cymorth canser
Ffôn Nr:  01792 200 000

Cymorth Canser Macmillan
Ffôn Nr: 0800 808 00 00
Oriau: Dydd Llun - Dydd Sul 8.00am - 8.00pm

Gofal Canser Tenovus
Ffôn Nr: 0808 808 1010 
Oriau: Dydd Llun - Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm penwythnosau a gwyliau banc 10.00am - 1.00pm


Velindre Mindfulness and Relaxation App - Google Play
Velindre Mindfulness and Relaxation App - Apple Store

Mae yna hefyd amrywiaeth o apiau ffonau symudol ar gael i'w lawrlwytho Google Play neu'r Apple App Storeewch i'n tudalen Apiau ac Adnoddau Ffordd o Fyw yma

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: