Neidio i'r prif gynnwy

Yfed alcohol

Er mwyn gwella gallu eich corff i ymdopi ag unrhyw driniaethau yn y dyfodol, mae'n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod yn yfed o fewn y terfynau a argymhellir, neu'n is na'r terfynau hynny. Bydd gostwng swm yr alcohol hefyd yn helpu i leihau'r risg o ddamweiniau, a bydd hyn wedyn yn sicrhau bod yna lai eto o alwadau ar y GIG, sydd eisoes yn rhy uchel.

Yn aml, nid yw pobl yn ymwybodol o'r terfyn alcohol a argymhellir.  Os ydych yn yfed fwy neu lai bob wythnos, y cyngor yw y dylech ddilyn yr argymhellion isod er mwyn cadw'r risgiau i'ch iechyd yn isel:

  • peidio ag yfed mwy nag 14 uned yr wythnos yn rheolaidd (dynion a menywod)
  • rhannu'r hyn a yfwch dros dri diwrnod neu ragor os ydych yn yfed cymaint ag 14 uned yr wythnos yn rheolaidd
  • os ydych am gwtogi ar eich yfed, ceisiwch gael sawl diwrnod heb ddiod bob wythnos

Os ydych yn yfed 14 uned, mae hynny'n cyfateb i chwe pheint o gwrw cryfder cyfartalog neu 10 gwydraid bach o win cryfder isel.

 

Awgrymiadau defnyddiol:

Bwytewch cyn yfed alcohol

A oeddech yn gwybod bod alcohol yn cael ei amsugno'n arafach os byddwch yn bwyta pryd sy'n cynnwys protein a charbohydradau (e.e. cyw iâr neu pizza) cyn i chi yfed neu wrth i chi yfed?

Ein Hawgrym – os ydych yn meddwl eich bod yn yfed gormod, gosodwch nod i chi eich hun i yfed dim ond pan fyddwch yn bwyta.

 

Yfwch yn hamddenol, gan roi'r gwydr i lawr rhwng pob sipiad; yfwch sipiadau llai

A ydych wedi sylwi eich bod yn tueddu i yfed mwy os byddwch yn dal gafael yn eich gwydr? Cymerwch sipiadau bach yn achlysurol yn hytrach na llowcio eich diod. Mae'n cymryd tua awr (mwy i fenywod) i'ch iau brosesu un ddiod safonol.

Ein Hawgrym – rhowch gynnig ar ddefnyddio gwydr llai, gwanhewch eich diodydd alcohol, neu newidiwch i ddiod â llai o alcohol. Byddwch yn lleihau eich cymeriant alcohol heb hyd yn oed sylweddoli hynny.

 

Mesurwch eich diodydd a gosod terfyn i chi eich hun

A ydych yn gwybod faint o ddiodydd safonol yr ydych yn eu hyfed? Gartref, arllwyswch ddiod safonol a chymharwch hi â'r hyn yr ydych chi'n ei yfed.

Ein Hawgrym – pennwch derfyn i chi eich hun o ran yr hyn y byddwch yn ei yfed ar ddiwrnod penodol. Bydd hyn yn golygu mai chi sy'n rheoli'r sefyllfa.

 

Adnoddau defnyddiol:

Mae cymorth a chymorth cyfrinachol ar gael: 

Am fwy o wybodaeth a chyngor ar alcohol (agor mewn dolen newydd)

NHS – Alcohol support (agor mewn dolen newydd) 

Alcohol Change UK (Cymru) – Help a chymorth (agor mewn dolen newydd) 

 

Mae yna hefyd amrywiaeth o apiau ffonau symudol ar gael i'w lawrlwytho Google Play (agor mewn dolen newydd) neu'r Apple App Store (agor mewn dolen newydd) – ewch i'n tudalen Apiau ac Adnoddau Ffordd o Fyw yma (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: