Neidio i'r prif gynnwy

Bod yn egnïol

Mae yna lawer o fuddion i fod yn egnïol. Bydd yn eich helpu i gysgu'n well, cynnal pwysau iach, rheoli eich lefelau straen a gwella eich lefelau egni – gall pob un o'r rhain helpu i wella ansawdd eich bywyd. Mae bod yn egnïol yn arbennig o bwysig os ydych yn aros am driniaeth neu'n cael triniaeth. Bydd yn helpu i gryfhau eich calon a'ch ysgyfaint, a bydd hyn, yn ei dro, yn helpu eich corff i ymdopi ag unrhyw driniaethau cyfredol neu driniaethau yn y dyfodol. 

Mae unrhyw weithgaredd sy'n gwneud i chi deimlo ychydig allan o wynt yn fuddiol. Os ydych eisoes yn egnïol, daliwch ati, neu os ydych yn teimlo'n abl, ceisiwch wneud ychydig mwy. Os nad ydych yn egnïol iawn ar hyn o bryd neu'n teimlo y gallech wneud mwy, dyma'r amser i roi cynnig arni. Ewch ati heddiw, peidiwch â gohirio gwneud. Mae peidio â symud yn ddrwg iawn i'n cyrff gan y bydd ein cyhyrau'n dihoeni'n gyflym, a hyn wedyn yn effeithio ar ein cryfder a'n cydbwysedd. Mae ein cyhyrau, ein hesgyrn a'n cymalau yn hoffi cael eu symud, er y byddant efallai'n crecian a griddfan ychydig. 

Os byddwch yn teimlo bod angen hynny, trafodwch unrhyw bryderon a allai fod gennych ynghylch eich gallu i wneud ymarfer â'ch tîm gofal iechyd neu eich meddyg teulu. Peidiwch ag oedi gan fod ymarfer corff yn rhan bwysig iawn o'ch paratoad ar gyfer triniaeth a'ch gallu i gwblhau unrhyw driniaeth. 

 

Cyn i chi ddechrau symud mwy  

Os ydych yn simsan ar eich traed neu os ydych wedi cwympo o'r blaen, dylech fod yn hynod o ofalus wrth symud o gwmpas. Rydym am i chi fod yn egnïol, ond nid ydym am i chi gwympo neu eich anafu eich hun.  Os ydych yn teimlo bod arnoch angen cymorth ychwanegol, gofynnwch i'ch gweithiwr allweddol neu i weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal leol.    
 

Awgrymiadau defnyddiol: 

  • Ceisiwch osgoi cyfnodau hir o eistedd, a dod o hyd i ffyrdd o gynnwys symudiad yn eich diwrnod.   
  • Gwisgwch esgidiau gwrthlithro sy'n cynnal eich traed.   
  • Dechreuwch trwy wneud ychydig, a chynyddwch lefelau eich gweithgarwch yn raddol.   
  • Defnyddiwch rywbeth cadarn a solet i'ch cynnal (er enghraifft arwyneb gwaith cegin).  
  • Rhowch gynnig ar gerdded yn sionc, neu ar loncian yn y fan a'r lle neu o amgylch eich gardd: gall glanhau, dawnsio, garddio neu chwarae gyda'ch plant i gyd helpu. Gall defnyddio dyddiadur, mesurydd camau neu ffôn clyfar helpu eich cymhelliant. 
  • Mae teimlo eich cyhyrau'n gweithio, neu deimlo ychydig o ddolur yn eich cyhyrau drannoeth, yn rhywbeth cyffredin. Peidiwch â gadael i hyn eich digalonni.  
  • Os bydd gennych boen acíwt yn unrhyw le, rhowch y gorau i'r gweithgaredd a gorffwyswch.
  • Ceisiwch beidio â dal eich anadl, ac anadlwch fel arfer trwy gydol yr ymarfer.  
  • Anelwch at 3-5 sesiwn o 20-30 munud yr un bob wythnos. Os yw'n well gennych, gellir rhannu'r rhain yn sesiynau 10 munud. 
     

Adnoddau defnyddiol:

Bydd y dolenni isod yn darparu syniadau ar gyfer gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff i chi eu gwneud gartref. Cadwch ddyddiadur o'ch cyflawniadau, i'w rannu â'ch tîm gofal iechyd.  

Fideo Ymarfer Corff y GIG (agor mewn dolen newydd)  
Canllawiau Ymarfer Corff y GIG (agor mewn dolen newydd)
Ymarfer Corff Hawdd gan y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (agor mewn dolen newydd)  

Mae yna hefyd amrywiaeth o apiau ffonau symudol ar gael i'w lawrlwytho o Google Play (agor mewn dolen newydd) neu'r Apple App Store (agor mewn dolen newydd) – ewch i'n tudalen Apiau ac Adnoddau Ffordd o Fyw yma (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: