Gall bwyta'n dda eich helpu i deimlo'n well, cynyddu eich lefelau egni cymaint â phosibl, a'ch galluogi i gryfhau eich imiwnedd, sy'n arbennig o bwysig wrth i chi baratoi ar gyfer triniaeth.
Bydd bod yn egnïol yn eich helpu i gysgu'n well, cynnal pwysau iach, rheoli eich lefelau straen a gwella eich lefelau egni – gall pob un o'r rhain helpu i wella ansawdd eich bywyd.
Gall ansicrwydd ynghylch eich iechyd, eich gofal a'ch triniaeth beri straen, felly dyma ychydig awgrymiadau ar gyfer gofalu am eich hwyliau a'ch llesiant cyffredinol.
Trwy ddim ond yfed o fewn y terfynau a argymhellir neu lai, byddwch yn gwella gallu eich corff i ymdopi ag unrhyw driniaeth yn y dyfodol.
Mae pryderu am iechyd yn rhywbeth cyffredin, ac mae'n ddealladwy. Mae'n bwysig ar yr adegau hyn i gynnig gofal a thosturi i chi eich hun a'r rhai sydd o'ch cwmpas.
Bydd rhoi’r gorau i smygu yn helpu eich corff i ymateb i driniaeth, gan gyflymu eich adferiad a lleihau eich amser yn yr ysbyty.