Neidio i'r prif gynnwy

Peswch

Os ydych yn codi fflem neu fwcws wrth beswch, gall ffisiotherapydd ddangos ffyrdd i chi i’ch helpu i glirio eich ysgyfaint.  

Os ydy’ch peswch yn sych heb unrhyw fflem neu fwcws, yna gall ceisio ei atal helpu i atal eich egni.

Pedair ffordd allweddol i helpu lleihau peswch

1. Oedi’r peswch – rhowch gynnig ar un neu fwy o’r canlynol

2. Rhowch gynnig ar rywbeth arall – beth am un neu ddau o’r canlynol, ond DIM OND os nad oes gennych broblemau llyncu.

  • Llyncu
  • Llyncu’n galed (gyda llawer o ydrech)
  • Cymerwch lwnc o ddŵr
  • Cnowch gwm cloi neu sugnwch losin caled

Os ydych yn ansicr, trowch at y rhan ar Fwyta ac Yfed yn Dda (agor mewn dolen newydd).

3. Stopio’r peswch

  • Ceisiwch beidio â pheswch o gwbl. Sylwch ar y teimladau. Byddwch yn gyffyrddus a pheidiwch â chynhyrfu tra’n anadlu’n rheolaidd ac yn ysgafn
  • Ystyriwch sut yr ydych yn teimlo pan mae arnoch eisiau peswch

Ceisiwch dynnu sylw eich hun

  • Sipiwch ddŵr neu ddefnyddiwch dechneg anadlu ysgafn i dynnu eich sylw
  • Canolbwyntiwch ar rywbeth o’ch cwmpas: edrychwch am rywbeth i’w wneud yn syth, fel clirio neu symud rywbeth
  • Anadlwch yn ysgafn a chanolbwyntiwch ar rywbeth fydd yn tynnu eich sylw oddi ar yr ysfa i beswch
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: