Neidio i'r prif gynnwy

Ymweld iechyd

Mae'r tîm ymweld iechyd yn cynnig gwasanaeth i bob teulu gyda phlant o'u genedigaeth hyd at bum mlwydd oed.

Gallwn eich helpu mewn gwahanol ffyrdd gan gynnwys:

  • bwydo
  • cysgu
  • ymddygiad a chwarae
  • gwybodaeth am imiwneiddio
  • twf a datblygiad eich plentyn
  • cefnogi eich iechyd a'ch llesiant emosiynol
  • unrhyw faterion a allai fod gennych yn ymwneud â thrais domestig neu gadw'ch plentyn yn ddiogel

Bydd yr ymwelydd iechyd yn ymweld â chi gartref pan fydd eich babi tua phythefnos oed, a byddwch yn cael cynnig apwyntiadau pellach yn ystod yr wythnosau canlynol. Byddwn yn cysylltu â chi pan fydd eich plentyn yn 6, 15, 27 mis a 3 ½ oed i weld sut rydych chi a'ch plant yn gwneud.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: