Neidio i'r prif gynnwy

Tîm ysmygu a lles

Mae Cymorth GIG am ddim ar gael o'ch cartref gyda chynghorwyr hyfforddedig a fydd yn darparu cymorth unigol a mynediad at Feddyginiaeth Dim Smygu am ddim.  

Bydd ein gwasanaeth yn darparu cymorth strwythuredig, ar baratoi i roi'r gorau iddi, rhoi'r gorau iddi, aros wedi stopio a'ch dyfodol di-fwg.  Darperir sesiynau gan arbenigwyr hyfforddedig ar roi'r gorau i ysmygu. Mae'r holl wasanaethau am ddim a byddant yn rhoi'r cyfle gorau i chi roi'r gorau i ysmygu am byth.

Peidiwch â mynd trwyddo ar eich ben eich hun.  Rydym yma i helpu.

 

Pryd a ble mae cymorth ar gael?

Mae cymorth ar gael dros y ffôn neu wyneb yn wyneb mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Gellir trefnu apwyntiadau hyblyg o ddydd Llun i ddydd Gwener.  Apwyntiadau ar gael hyd at 8.30pm yn amodol ar argaeledd. 

 

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Mae cymorth ar gael am ddim, i bawb. Croesewir hunanatgyfeiriadau. Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn un o'r pethau gorau y gallwch ei wneud dros eich iechyd a gall hefyd arbed arian i chi. Rydych hyd at bedair gwaith yn fwy tebygol o lwyddo i roi'r gorau i ysmygu gyda chymorth yn hytrach na rhoi cynnig arni ar eich pen eich hun.

 

Manylion cyswllt

Ffôn: 0300 303 9652 (oriau swyddfa gyda ffôn ateb)
E-bost: Smokers.Clinic@wales.nhs.uk
Cliciwch yma i weld ffurflen atgyfeirio'r clinig Smygwyr (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: