Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Clefyd Llid y Coluddyn?

Mae clefyd llid y coluddyn (IBD) yn derm a ddefnyddir yn bennaf i ddisgrifio dau gyflwr: colitis briwiol a chlefyd Crohn.

Mae colitis briwiol a chlefyd Crohn yn gyflyrau hirdymor sy'n cynnwys llid yn y perfedd.

Mae colitis briwiol yn effeithio ar y coluddyn yn unig (coluddyn mawr). Gall clefyd Crohn effeithio ar unrhyw ran o'r system dreulio, o'r geg i'r din (anws).

Gall pobl o unrhyw oedran gael IBD, ond fel arfer caiff ddiagnosis rhwng 15 a 40 oed.