Neidio i'r prif gynnwy

Therapi iaith a lleferydd – Sut i gael mynediad?

Gall unrhyw un atgyfeirio at y gwasanaeth therapi iaith a lleferydd i oedolion gan gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol, yr unigolyn neu aelodau pryderus o’r teulu drwy lenwi’r ffurflen atgyfeirio berthnasol.

Bydd angen gwybodaeth benodol arnom, e.e. hanes meddygol, meddyginiaeth ac ati. Bydd angen i chi ei chael gan Feddyg Teulu/Ymgynghorydd yr unigolyn. Os oes gennych bryderon ynghylch llais yr unigolyn, yna bydd angen i ENT ei weld yn gyntaf a bydd angen iddynt gysylltu â’u meddyg teulu i drefnu hyn.

Ein nod yw ymateb i geisiadau cymunedol o fewn 14 wythnos o'u derbyn. Rydym bob amser yn ceisio ymateb yn gynt os yn bosibl.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Rhif ffôn: 01267 227425
Ebost: Speechlanguagetherapy.hdd@wales.nhs.uk

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: