Neidio i'r prif gynnwy

Therapi galwedigaethol pediatrig - sut i gael eich atgyfeirio

Canllawiau a meini prawf cais am gymorth

Argymhellir bod y wybodaeth hon yn cael ei hystyried cyn i chi lenwi'r ffurflen gais am help.

Cyn cwblhau cais am help

  • Ystyriwch lefel ddatblygiadol eich plentyn/person ifanc mewn perthynas â'r meysydd sy'n peri pryder. Dylech ystyried a yw sgiliau eich plentyn/person ifanc yn wahanol i'w lefel gyffredinol o ddatblygiad. Er enghraifft, os yw'ch plentyn yn 10 oed ond mae ei oedran dysgu yn 5 oed (oedi dysgu byd-eang). Yna byddech chi'n disgwyl i'w holl sgiliau a galluoedd byw bob dydd fod ar yr un lefel â phlentyn 5 oed. Os yw hyn yn wir, mae'r gwasanaeth therapi galwedigaethol yn annhebygol o allu gwella sgiliau eich plentyn. Yn hytrach, byddem yn eich cynghori i gefnogi dysgu eich plentyn ar lefel y maent yn ei ddeall.
  • A yw amseriad y cais yn dda i'r plentyn/person ifanc a'r teulu? Mae disgwyliad y bydd y bobl agosaf at y plentyn yn cyflawni unrhyw argymhellion neu raglenni a wneir gan y therapydd galwedigaethol. Gofynnwch am gymorth pan fydd y teulu yn barod ac ar gael i ymgymryd â'r ymrwymiad hwn.
  • Fel arfer, cynhelir yr asesiad cyntaf dros y ffôn, felly gwnewch yn siŵr bod yr holl rifau yn gywir a'ch bod wedi datgan unrhyw anghenion cyfathrebu neu iaith. Cynhwyswch gyfeiriad e-bost hefyd.
  • Gellir dychwelyd ceisiadau os oes angen rhagor o wybodaeth.

Cwblhewch ffurflen gais am gymorth therapi galwedigaethol plant: Therapi galwedigaethol pediatreg - ffurflen atgyfeirio electronig (PDF, 107KB, agor mewn dolen newydd)

Sylwch fod y cyfeiriad e-bost ar y ffurflen atgyfeirio yn anghywir. Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost isod.

Gallwch naill ai anfon hwn drwy'r post at eich tîm lleol neu drwy e-bost i: children's.OTservices@wales.nhs.uk

Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'r ffurflen, ffoniwch eich tîm lleol a bydd rhywun ar gael i'ch cynorthwyo (manylion cyswllt isod).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: