Rydym yn ymwybodol nad yw dogfennau sydd wedi'u cynnwys yn y maes hwn yn cydymffurfio â'r Safonau Hygyrchedd Digidol. Os hoffech gael mynediad at fformat arall, ebostiwch DigitalCommunications.Team@wales.nhs.uk. Gallwch ddarllen ein datganiad hygyrchedd digidol (agor mewn dolen newydd) yma.
Mae therapi galwedigaethol yn broffesiwn gofal iechyd sy'n helpu unigolion ag anawsterau i gyflawni eu lefel uchaf o annibyniaeth a photensial ym mhob maes o fywyd beunyddiol, gan gynnwys gwaith, chwarae, hunanofal a'r ysgol. Rydym yn gweithio gyda phobl allweddol eraill sy'n ymwneud â bywydau plant a phobl ifanc fel teuluoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, addysg a gofal cymdeithasol i sicrhau bod y gefnogaeth orau ar gael.
Rydyn ni'n helpu plant a phobl ifanc sy'n cael anawsterau sylweddol wrth gyflawni eu gweithgareddau bob dydd, sy'n 0-18 oed ac yn byw yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin neu Ceredigion. Rhaid i chi gael eich cyfeirio at y gwasanaeth gan weithwyr iechyd proffesiynol sy'n adnabod y plentyn.
Nid ydym yn gweld plant os yw eu prif anhawster oherwydd anawsterau ymddygiad.