Os ydych chi'n teimlo dan straen, yn bryderus neu'n isel, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Mae tua 1 o bob 4 oedolyn yn cael trafferth gyda heriau iechyd meddwl. Mae cymorth ar gael i chi.
Mae SilverCloud gan Amwell® yn wasanaeth cymorth iechyd meddwl ar-lein am ddim sydd ar gael trwy GIG Cymru heb atgyfeiriad gan feddyg teulu. Trwy SilverCloud, gallwch gael mynediad at ystod o raglenni hunangymorth dan arweiniad i'ch helpu i reoli a gwella'ch iechyd meddwl a'ch lles. Mae cymorth ar gael ar gyfer pryder ysgafn i gymedrol, iselder, straen, anawsterau cysgu a mwy.
Mae pob rhaglen yn defnyddio technegau yn seiliedig ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) sy'n gweithio trwy eich annog i herio'r ffordd rydych chi'n meddwl ac yn ymddwyn fel eich bod chi mewn gwell sefyllfa i ddelio â phroblemau bywyd.
Gallwch gofrestru ar-lein a dewis un o'r rhaglenni iechyd meddwl a lles ar-lein rhyngweithiol, hawdd eu defnyddio i'w chwblhau dros 12 wythnos. Er ei fod yn wasanaeth hunangymorth ar-lein, mae rhaglenni SilverCloud® yn cael eu hategu a'u cefnogi gan dîm o staff y GIG sydd wedi'u hyfforddi i ddarparu cymorth iechyd meddwl ar-lein. Ar ôl cofrestru, bydd ‘Cefnogwr SilverCloud®’ yn eich tywys drwy’r rhaglen, gan roi adborth a chyngor ysgrifenedig bob pythefnos drwy neges ar-lein.
Mae SilverCloud yn cyd-fynd â’ch bywyd! Gallwch gael mynediad i’ch rhaglen unrhyw le, unrhyw bryd o’ch ffôn symudol, tabled, cyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur.
Lawrlwythwch y llyfryn rhaglen yma (agor mewn dolen newydd). Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gwnewch gais am fformat gwahanol).
Cofrestrwch yma (agor mewn dolen newydd)
P'un a ydych chi'n aelod o'r cyhoedd, yn feddyg teulu neu'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol, os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at Silver.Cloud@Wales.nhs.uk neu ffoniwch 01874 712 428.