Mae'r wasanaeth yma ar gyfer unrhyw un sydd â diagnosis rhewmatolegol wedi'i gadarnhau gan gwynegwr. Rydym yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar gyflyrau rhewmatolegol i gleifion a thimau meddygol / ymarferwyr gofal iechyd.
Rydym yn cynnig cymorth mewn person trwy glinigau dan arweiniad nyrsys. Mae cymorth dros y ffôn ar gael i'ch helpu i ddeall nodau'r driniaeth ac i reoli anghenion monitro cyffuriau, ynghyd â cynorthwyo i reoli effaith emosiynol, corfforol a seicolegol ech cyflwr ar y croen. Gallwn gyfeirio at weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Gallwn ddarparu gwybodaeth i chi am ffynonellau gwybodaeth eraill.
Llinell Gymorth Rhewmatoleg
Rhif Ffôn: 0300 3038322 (Opsiwn 2)
Nod y gwasanaeth hwn yw gallu rhoi cyngor Rhewmatoleg arbenigol i chi ynghylch eich diagnosis a'ch triniaeth, gan gynnwys unrhyw feddyginiaethau a ragnodwyd i chi gan ein clinig.
Mae’r hyb cyfathrebu ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 9 am i 5 pm, dydd Sadwrn 10 am i 4 pm a dydd Sul a Gwyliau Banc 10 am i 3 pm.
Byddwch yn siarad â chynghorydd, bydd eich ymholiad yn cael ei gofnodi a lle bo'n briodol bydd nyrs Rhewmatoleg yn ymdrechu i gysylltu yn ôl â chi. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gallu darparu amserlen i nyrs eich ffonio'n ôl gan nad yw hwn yn wasanaeth brys.
Os bydd angen cyngor brys arnoch, cysylltwch â'ch fferyllydd cymunedol GIG 111 lleol neu eich meddyg teulu fel y bo'n briodol.
Dylech ffonio am gyngor os ydych:
• Angen mwy o wybodaeth am eich cyflwr neu driniaeth.
• Yn profi adwaith o chwistrelliad a roddir i chi yn y clinig.
• Teimlo eich bod yn cael fflêr mewn symptomau ac nad yw eich meddyginiaeth bresennol yn rheoli eich symptomau.
• Yn profi unrhyw sgîl-effeithiau o feddyginiaethau a ragnodwyd i chi o'n clinig.
• Yn derbyn pigiadau neu arllwysiadau Anti TNF/Biolegol ar bresgripsiwn ac wedi mynd yn sâl.
Ni ddylech ffonio’r llinell gyngor:
• Ar gyfer canlyniadau profion gwaed neu ymchwiliadau a gyflawnwyd gan, neu ar gais, yr adran Rhewmatoleg. Os bydd eich canlyniadau yn annormal, bydd y tîm Rhewmatoleg yn cysylltu â chi.
• Am gyngor Rhewmatoleg cyffredinol a all aros tan eich apwyntiad nesaf.