Neidio i'r prif gynnwy

Profion gwaed

Mae gan brofion gwaed, y cyfeirir atynt weithiau fel fflebotomi, ystod eang o ddefnyddiau ac maent yn un o'r mathau mwyaf cyffredin o brofion meddygol.

Gellir defnyddio prawf gwaed i asesu eich cyflwr iechyd cyffredinol neu i wirio a oes gennych haint. Gall hefyd weld pa mor dda y mae rhai organau fel yr afu a'r arennau yn gweithio a sgrinio am rai cyflyrau genetig.

Oherwydd COVID-19 mae'r gwasanaeth prawf gwaed yn ein hysbytai yn newid. Rydym wedi cyflwyno system apwyntiadau newydd ar gyfer profion gwaed. Mae hyn er mwyn cefnogi ymbellhau cymdeithasol i amddiffyn ein cleifion a'n staff.

Nid oes digon o le yn ystafelloedd arose in hysbytai, felly mae'n rhaid i ni gyfyngu ar nifer y cleifion sy'n ciwio.

Felly, rydym yn gofyn i gleifion fwcio eu profion gwaed ymlaen llaw. Gallai hyn fod yn un o'n pedwar prif ysbyty neu mewn lleoliad cymunedol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: