Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer fel claf yn ein hardal, yn blant ac yn oedolion, sydd â phroblemau golwg y mae angen triniaeth. Bydd angen i chi gael eich hatgyfeirio gan feddyg ymgynghorol, meddyg teulu neu optometrydd lleol er mwyn cael mynediad i'r wasanaeth yma.
Rydym yn wasanaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol, sy'n darparu amrywiaeth gynhwysfawr o driniaethau a gofal ar eich cyfer yn ardal Hywel Dda.
Mae'r meysydd arbenigedd yn cynnwys retina, pediatreg, sgrinio babanod newydd-anedig, glawcoma, plastigion, yn ogystal â gwasanaeth macwlaidd a gwasanaeth cataractau. Darperir mwyafrif y gofal yn yr adran cleifion allanol neu'r lleoliad gofal dydd, ac fe'i cefnogir gan dîm nyrsio arbenigol.