Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaethau Dargludiad Nerfau (NCS)

Mae astudiaethau dargludiad nerfau (NCS) yn mesur pa mor gyflym y mae nerf yn gweithio. Rhoddir padiau ar wyneb y croen ac mae'r nerf yn cael ei ysgogi. Mae hyn yn teimlo fel tapio neu oglais a allai fod yn anghyfforddus. Cynhelir y prawf hwn ar y breichiau a’r coesau.

Nid oes unrhyw ôl-effeithiau o'r prawf.

 

Electromyogram (EMG)

Gellir cynnal prawf ychwanegol, sef Electromyogram (EMG) ar rai cleifion i brofi pa mor dda y mae'r cyhyrau'n gweithio. Mae hon yn weithdrefn ddiagnostig i asesu iechyd y cyhyrau a'r celloedd nerfol sy'n eu rheoli (niwronau modur).

Mae niwronau modur yn trosglwyddo signalau trydanol sy'n achosi cyhyrau i gyfangu. Mae EMG yn trosi'r signalau hyn yn graffiau, synau neu werthoedd rhifiadol y mae arbenigwr yn eu dehongli.

Mae EMG yn defnyddio dyfeisiau bach o'r enw electrodau i drawsyrru neu ganfod signalau trydanol. Yn ystod EMG â nodwydd, mewnosodir electrod nodwydd yn uniongyrchol i gyhyr ac mae’n cofnodi'r actifedd trydanol yn y cyhyr hwnnw.

Nid oes unrhyw ôl-effeithiau o'r prawf.

 

Cyngor ar brofion NCS ac EMG

Ar ddiwrnod oer, a fyddech cystal â sicrhau eich bod yn gwisgo menig. Dylai eich dwylo fod yn gynnes ar gyfer yr archwiliad hwn. Osgowch ddefnyddio unrhyw fath o olew neu hufen ar y dwylo a gwisgwch ddillad llac sy'n caniatáu mynediad i'ch penelinoedd a'ch pengliniau.

Peidiwch â gwisgo gormod o fodrwyau neu emwaith oherwydd efallai y bydd yn rhaid eu tynnu ar gyfer y prawf.

Yr ymgynghorydd yn unig sy’n cynnal y prawf hwn.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: