Neidio i'r prif gynnwy

Niwroffisioleg

Mae'r adran niwroffisioleg yn diagnosio ac yn monitro cyflyrau trwy fesur gweithgaredd trydanol yr ymennydd, llinyn asgwrn y cefn, y nerfau a'r cyhyrau. Byddant yn cynnal amrywiaeth o brofion i olrhain gwahanol actifedd ymennydd a niwrolegol i gofnodi actifedd trydanol. Mae'r profion hyn yn cynnwys electroenseffalogram (EEG), astudiaethau dargludiad nerfau, electromyogram (EMG) ac ymatebion gweledol a ysgogwyd (VER).

Cefnogir y gwasanaeth gan niwroffisiolegwyr ymgynghorol, gwyddonwyr gofal iechyd a niwroffisiolegwyr clinigol, a gellir gweld cleifion naill ai mewn clinigau cleifion allanol neu fel cleifion mewnol ar gyfer y rhai sydd angen profion brys.

Profion posib

Ble mae’r adran

Os ydych wedi cael eich cyfeirio fel claf allanol, byddwch yn cael llythyr apwyntiad yn nodi dyddiad ac amser eich apwyntiad. Bydd hyn yn cynnwys map o ble i ddod o hyd i ni yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 8.00am – 5.00pm

Cyfeiriad: Adran Niwroffisioleg Glinigol (gyferbyn â’r adran frys), Tŷ Myddfai, Ysbyty Glangwili, Heol Dolgwili, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin SA31 2AF

Rhif ffôn: 01267 283278

Os hoffech drafod unrhyw wybodaeth neu os oes gennych ymholiad am yr atgyfeiriad, cysylltwch â'r adran ar y rhif uchod. 

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: