Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gellir trin symptomau'r menopos?

Mae yna amrywiaeth o ddewisiadau gwahanol ar gael o ran triniaethau y gellir eu hystyried i helpu i wella symptomau'r menopos.

Newidiadau o ran Ffordd o Fyw a Llesiant

  • Gall newidiadau o ran ffordd o fyw helpu i wella eich iechyd a'ch llesiant cyffredinol, a gall helpu i gyfyngu ar effaith sbardunau a symptomau.
  • Gall gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, sicrhau deiet iach a chytbwys, peidio â smygu, a chyfyngu ar alcohol helpu i wella'r symptomau yn ystod y menopos. Gall yr ymyriadau hyn hefyd helpu o ran iechyd yr esgyrn a llesiant cyffredinol.
  • Gall technegau ymlacio, megis delweddu, ac ymwybyddiaeth ofalgar helpu i hybu ymdeimlad o ymlacio a lleihau straen a phryder.
  • Gellir defnyddio therapïau seicolegol megis Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) i helpu i reoli rhai o symptomau'r menopos, er enghraifft chwiwiau poeth a hwyliau isel neu orbryder.

Dewisiadau Hormonaidd ac Anhormonaidd

  • Gall triniaethau hormonaidd, gan gynnwys therapi amnewid hormonau, helpu gydag ystod eang o symptomau'r menopos, er enghraifft chwiwiau poeth a chwysu, ynghyd â llawer o symptomau eraill.
  • Mae oestrogen hormonaidd argroenol yn cael ei roi'n uniongyrchol ar ardal y wain i helpu i leddfu symptomau sy'n gysylltiedig â newidiadau i'r fwlfa a'r wain.
  • Defnyddir lleithyddion ac ireidiau ar gyfer y wain i helpu i leddfu symptomau'r fwlfa a'r wain. Mae lleithyddion ar gyfer y wain yn tueddu i weithredu'n hirach nag ireidiau.
  • Mae yna rywfaint o dystiolaeth y gallai defnyddio isofflafonau (cynhyrchion naturiol sy'n efelychu oestrogen) a cohosh du helpu i leddfu chwiwiau a chwysu sy'n ymwneud â'r menopos. Fodd bynnag, mae cymysgeddau amryfal ar gael ac nid oes yna sicrwydd ynghylch diogelwch y cynhyrchion hyn.
  • Mae meddyginiaethau penodol a roddir ar bresgripsiwn yn unig, megis rhai cyffuriau gwrthiselder, ar gael i helpu i leihau symptomau'r menopos, er enghraifft chwiwiau poeth.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: