Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw symptomau cyffredin y menopos?

Efallai y byddwch yn profi amrywiaeth o symptomau sy'n gysylltiedig â'r menopos. Gall rhai symptomau fod yn fwy trafferthus nag eraill, a gall y symptomau newid o ran eu dwyster, a newid dros amser.

Mae symptomau cyffredin y menopos yn cynnwys y canlynol:

  • Chwiwiau poeth a all ddigwydd ddydd neu nos, ac a all amrywio o deimlo ychydig yn gynnes i ymchwydd o wres yn ymledu trwy eich corff
  • Chwysu yn y nos a all achosi i chi ddeffro a bod yn wlyb hyd at eich croen mewn chwys
  • Mislifoedd afreolaidd
  • Sychder y wain a chosi
  • Problemau'n ymwneud â phasio dŵr yn amlach
  • Cael trafferth cysgu
  • Anawsterau rhywiol (er enghraifft awydd rhywiol isel)
  • Anghysur yn ystod rhyw • Hwyliau isel a/neu orbryder a phyliau o banig
  • Newid yn eich hwyliau
  • Problemau â'r cof neu ganolbwyntio (yr ymennydd yn teimlo'n gymylog)
  • Poen yn y cymalau a'r cyhyrau
  • Croen sych
  • Magu pwysau

Syndrom Cenhedlol-wrinol y Menopos

Mae menywod yn aml yn profi symptomau trallodus sy'n gysylltiedig â newidiadau i feinweoedd y fwlfa a'r wain. Gall menywod fod yn amharod i ofyn am help a chyngor, gan y gallant deimlo embaras ynghylch siarad am y materion hyn.

Mae oestrogen yn helpu i gadw meinweoedd y corff yn llaith, yn ystwyth ac yn ymestynnol. Pan fydd lefelau oestrogen yn disgyn, gall newidiadau ddigwydd i'r fwlfa a meinwe'r wain. Gall y meinweoedd ddod yn deneuach, yn sychach, yn llidus ac yn llai ymestynnol. Gall hyn arwain at gosi, anghysur a phoen, a phroblemau wrth basio dŵr. Gelwir y grŵp hwn o symptomau yn 'syndrom cenhedlol-wrinol y menopos ' (GSM).

Y Fwlfa

Mae newidiadau i'r fwlfa ac adeileddau cyfagos sy'n ymwneud â'r menopos yn cynnwys y canlynol:

  • Sychder y wain (symptom cyffredin iawn)
  • cosi a llid • ymdeimlad o losgi ac anghysur
  • llai o redlif sy'n deneuach
  • bod yn fwy agored i gael heintiau, dolur a llid

Mae newidiadau mewn lefelau oestrogen yn effeithio ar y bledren a'r wrethra. Gall y symptomau gynnwys y canlynol:

  • heintiau'r llwybr wrinol rheolaidd
  • awydd i basio dŵr yn amlach
  • poen ac anghysur wrth basio dŵr
  • gollwng ychydig bach o wrin ar ôl i chi feddwl eich bod wedi gorffen pasio dŵr
  • deffro yn y nos i basio dŵr yn amlach

Iechyd Cardiofasgwlaidd ac Iechyd yr Esgyrn

Mae oestrogen yn helpu i amddiffyn rhag clefyd y galon. Yn ystod y menopos, wrth i'r lefelau oestrogen leihau, gall lefel y braster yn y system waed gynyddu. Gall y newidiadau hyn olygu bod menywod mewn perygl o ddatblygu anhwylderau'n ymwneud â'r galon a chylchrediad y gwaed, megis pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel, strôc a chlefyd y galon.

Mae gan oestrogen rôl bwysig hefyd o ran cadw dwysedd yr esgyrn yn sefydlog a chynnal cryfder yr esgyrn. Pan fydd y lefelau oestrogen yn disgyn, mae'r effaith amddiffynnol hon yn lleihau. Gall yr esgyrn ddod yn fwy bregus a llai cryf.

Ewch i weld eich meddyg teulu os byddwch yn profi unrhyw symptomau a restrir isod sy'n newydd, yn barhaus, ac nad ydynt yn diflannu.

  • gwaedu anarferol o'r wain, gwaedu rhwng eich mislifoedd, neu waedu o'r wain os ydych wedi bod trwy'r menopos.
  • rhedlif anarferol o'r wain sy'n parhau.
  • newidiadau i olwg arferol eich fwlfa neu wain, neu os bydd lwmp neu friwiau yn yr ardal.
  • poen pan fyddwch yn pasio dŵr.
  • chwydd parhaus yn y bol neu deimlo'n chwyddedig.
  • poen yn y bol neu dynerwch o amgylch yr ardal rhwng eich cluniau (y pelfis).
  • dim archwaeth neu deimlo'n llawn yn gyflymach nag arfer ar ôl bwyta.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: