Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n achosi'r menopos?

Wrth i fenywod heneiddio, bydd yr ofarïau'n rhoi'r gorau i gynhyrchu cymaint o'r hormonau oestrogen, progesteron a thestosteron. Ni fydd wy bellach yn cael ei ryddhau bob mis, a bydd natur ac amlder y mislifoedd yn dechrau newid. Bydd y mislifoedd fel arfer yn digwydd yn llai aml a gall gymryd misoedd neu flynyddoedd iddynt ddod i ben yn gyfan gwbl.

Gall y menopos ddigwydd weithiau pan fydd menywod yn iau, a hynny'n rhan o broses naturiol. Weithiau daw'r mislifoedd i ben yn sydyn, er enghraifft, pan fydd yr ofarïau'n cael eu tynnu yn ystod llawdriniaeth. Gall triniaeth cemotherapi a/neu radiotherapi yn ardal y pelfis effeithio ar yr ofarïau, a gall achosi i'r mislif ddod i ben dros dro neu'n barhaol. Weithiau achosir y menopos cynnar gan gyflwr genetig. Weithiau nid yw'r achos yn hysbys.

Fel arfer bydd y gostyngiad mewn oestrogen yn digwydd rhwng 45 a 55 oed.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: