Neidio i'r prif gynnwy

Y Menopos

Y menopos yw pan fydd eich corff yn rhoi'r gorau i gael mislifoedd wrth i'ch lefelau oestrogen a phrogesteron ostwng. Mae hon fel arfer yn broses raddol, ac fe'i hystyrid yn rhan naturiol o heneiddio. Fel arfer, ystyrir eich bod yn mynd trwy'r menopos pan na fyddwch wedi cael mislif am ddeuddeg mis yn olynol. Gall diffiniadau o'r menopos amrywio weithiau.

Yn ystod y cyfnod yn arwain at y menopos, gallwch brofi symptomau'r menopos ond gallwch fod yn cael mislif o hyd. Gelwir hyn yn perimenopos. Yn ystod y cyfnod hwn, gall eich mislifoedd newid a bod yn afreolaidd, a bod â mwy o fwlch rhyngddynt, neu lai o fwlch. Gall y llif newid hefyd, a gallant fod yn drymach neu'n ysgafnach.

Efallai y byddwch yn profi symptomau'r menopos yn y misoedd a'r blynyddoedd sy'n arwain at ddiwedd eich mislifoedd yn gyfan gwbl. Gall symptomau'r menopos barhau y tu hwnt i'r adeg pan fydd eich mislifoedd wedi dod i ben, a hynny am fisoedd ac weithiau blynyddoedd. Bydd y rhan fwyaf o fenywod yn profi rhai o symptomau'r menopos, ond efallai na fyddant yn sylweddoli mai dyna y maent yn ei brofi. Gall y symptomau amrywio'n fawr o ran eu difrifoldeb a'u hyd, a gall y symptomau newid ac addasu dros amser. Bydd y rhan fwyaf o symptomau yn setlo gydag amser.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: