Endometriosis Cymru (opens in new tab)
Mae endometriosis yn gyflwr lle mae meinwe sy'n debyg i leinin y groth (yr wterws) i'w gael mewn man arall yn y corff. Fe'i canfyddir amlaf yn y pelfis (yn yr ofarïau neu arnynt, y tu ôl i'r groth, mewn meinwe sy'n dal y groth yn ei lle ac ar y coluddyn a'r bledren). Gellir ei ganfod hefyd mewn mannau eraill megis ceudod y frest, yr ysgyfaint, wal yr abdomen a'r bogail. Gellir dod o hyd i feinwe endometriotig ar wyneb organau a thros leinin ceudod yr abdomen (y peritonewm). Gall dreiddio'n ddyfnach i'r adeileddau neu gall ffurfio cystiau (codennau llawn hylif) yn yr ofarïau.
Bob mis, os nad yw menyw yn feichiog, bydd leinin y groth yn ymddatod ac yn cael ei waredu ar ffurf mislif. Mae'r meinwe endometriotig (endometriosis) yn mynd trwy gylchred tebyg ac yn gwaedu yn ystod mislif. Gall hyn achosi poen yn ystod mislifoedd, llid a chreithio. Gall y creithio achosi i organau neu adeileddau lynu at ei gilydd. Weithiau gall meinwe endometriosis dwfn a chreithiau ffurfio lympiau bach. Gall cyffwrdd â'r lympiau hyn fod yn boenus iawn. Gall creithiau a nodylau endometriosis achosi poen i rai menywod yn ystod cyfathrach rywiol. Gall endometriosis ei gwneud yn anoddach beichiogi.